Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn yn rhoi grym i ddapariaethau amrywiol Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (“y Ddeddf”) yng Nghymru a Lloegr.

Mae cyfeiriadau at adrannau neu Atodlenni (oni nodir fel arall) yn gyfeiriadau at adrannau o'r Ddeddf neu'r Atodlenni iddi.

Daw darpariaethau'r Ddeddf a restrir yng ngholofn gyntaf yr Atodlen i'r Gorchymyn hwn i rym ar 31 Ionawr 2005. Oni phennir fel arall yn ail golofn yr Atodlen, daw'r darpariaethau hynny i rym ar y dyddiad hwnnw at bob diben. Effaith y darpariaethau fydd fel a ganlyn.

Mae adran 12 yn diffinio'r term “corff llywodraeth leol yng Nghymru” at ddibenion y Ddeddf. Mae hefyd yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”) bŵer i newid y rhestr o gyrff y'u diffinnir fel cyrff llywodraeth leol yng Nghymru.

Mae adran 16 yn rhoi pŵer i Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddyroddi côd arferion archwilio sy'n rhagnodi'r ffordd y mae archwilwyr i gyflawni eu swyddogaethau o dan Bennod 1 o Ran 2 o'r Ddeddf.

Mae is-adrannau (1)-(3) o adran 20 yn rhoi pŵer i Archwilydd Cyffredinol Cymru i ragnodi graddfa neu raddfeydd o ffioedd sy'n daladwy am archwilio cyfrifon cyrff llywodraeth leol yng Nghymru o dan y Ddeddf. Dygir y darpariaethau hyn i rym mewn perthynas yn unig â ffioedd sy'n daladwy am archwilio cyfrifon a baratowyd mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2005, sef y dyddiad y bwriedir dwyn gweddill darpariaethau'r Ddeddf i effaith.

Mae is-adrannau (1), (2) a (5) o adran 21 yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol i ddisodli'r raddfa neu'r graddfeydd a osodir gan Archwilydd Cyffredinol Cymru gan ei raddfa neu ei raddfedydd ei hun, os yw o'r farn bod hynny'n angenrheidiol neu'n ddymunol.

Mae Adran 39 yn rhoi pŵer i'r Cynulliad Cenedlaethol i wneud rheoliadau sy'n rheoli cadw cyfrifon gan gyrff llywodraeth leol yng Nghymru, eu ffurf, a'u hardystio etc, ac yn rheoli arfer hawliau gan aelodau o'r cyhoedd o dan adrannau 29 — 31 o'r Ddeddf i gael mynediad i ddogfennau, ac i godi cwestiynnau a gwrthwynebiadau. Dygir y ddarpariaeth i rym yn unig er mwyn galluogi i reoliadau gael eu gwneud i reoli cyfrifon a datganiadau o gyfrifon a baratoir mewn perthynas â blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2005.

Mae adran 50 yn darparu bod Atodlen 1 yn effeithiol. Dygir hi i rym gan y Gorchymyn hwn ond yn unig at ddibenion dwyn i effaith ran o baragraff 7 o Atodlen 1, sy'n darparu ar gyfer adran 8A newydd i'w mewnosod ar ôl adran 8 o Ddeddf Llywodraeth Leol 1999 (“Deddf 1999”). Mae'r adran 8A newydd o Ddeddf 1999 yn rhoi pŵer i Archwilydd Cyffredinol Cymru i ddyroddi côd ymarfer sy'n rhagnodi'r ffordd y mae archwilwyr a benodwyd ganddo yn cyflawni eu swyddogaethau o dan adran 7 o Ddeddf 1999. Mae hefyd yn rhoi pŵer i Archwilydd Cyffredinol Cymru i ragnodi graddfa neu raddfeydd ffioedd mewn perthynas ag archwilio cynlluniau perfformiad, gan archwilwyr a benodwyd ganddo, o dan Ran 1 o Ddeddf 1999. Yn rhinwedd yr adran 8A(4) newydd o Ddeddf 1999, mae gan y Cynulliad Cenedlaethol y pŵer i ragnodi graddfa neu raddfeydd ffioedd amgen.

Mae is-adrannau (6) i (8) o adran 54 yn rhoi pŵer i'r Ysgrifennydd Gwladol i ddiddymu neu ddiwygio darpariaethau blaenorol adran 54, drwy orchymyn a wnaed gan offeryn statudol.

Mae adran 58 yn cynnwys darpariaethau o ran ffurf a chynnwys gorchmynion a rheoliadau y caiff y Cynulliad Cenedlaethol eu gwneud o dan Ran 2 o'r Ddeddf, ac o ran cynnwys gorchmynion neu reoliadau y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol eu gwneud o dan y Rhan honno.

Mae adran 59 yn gosod y dehongliad o'r termau amrywiol at ddibenion Rhan 2 o'r Ddeddf.

Mae adran 68 yn darparu ar gyfer gwneud cynlluniau trosglwyddo i drosglwyddo eiddo, hawliau a rhwymedigaethau i Archwilydd Cyffredinol Cymru, ac yn gwneud Atodlen 3 yn effeithiol, sy'n gwneud darpariaeth bellach am y cynlluniau trosglwyddo hynny.