2005 Rhif 700 (Cy.59) (C.30)

GOFAL CYMDEITHASOL, CYMRU
PLANT A PHOBL IFANC, CYMRU

Gorchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn Rhif 2) 2005

Wedi'i wneud

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 67(6) o Ddeddf Plant 20041, gyda chydsyniad yr Ysgrifennydd Gwladol, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn a ganlyn—

Enwi, dehongli a chymhwyso1

1

Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Plant 2004 (Cychwyn Rhif 2) 2005.

2

Yn y Gorchymyn hwn, ystyr “y Ddeddf” yw Deddf Plant 2004.

Y Diwrnod Penodedig2

1

16 Mawrth 2005 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod ag adrannau 42 a 43 o'r Ddeddf i rym.

2

1 Ebrill 2005 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dod ag adrannau 35, 36, 37, 38, 39, 40 a 41 o'r Ddeddf i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19982.

D. Elis-ThomasLlywydd y Cynulliad Cenedlaethol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Y Gorchymyn hwn yw'r ail Orchymyn cychwyn a wnaed o dan Ddeddf Plant 2004 (“y Ddeddf”).

Mae'r Gorchymyn hwn yn dod ag adrannau 35 i 43 o'r Ddeddf, ac Atodlen 3 iddi, sy'n ymwneud â swyddogaethau CAFCASS yng Nghymru a Lloegr, i rym. Daw adrannau 42 a 43 sy'n ymwneud â throsglwyddo eiddo a staff i rym ar 16 Mawrth 2005 a daw adrannau 35 i 41 ac Atodlen 3 i rym ar 1 Ebrill 2005.

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae darpariaethau Deddf Plant 2004 y cyfeirir atynt yn y tabl isod wedi'u dwyn i rym o ran Lloegr ar y dyddiad a bennir wrth ymyl O.S. 2005/394 C.18, ac eithrio pan fo cofnod yn dangos bod darpariaeth wedi'i dwyn i rym o ran Cymru a Lloegr.

Darpariaeth

Dyddiad Cychwyn

Adran 10

1 Ebrill 2005

Adran 11(yn rhannol)

1 Mawrth 2005

Adran 11 (y gweddill)

1 Hydref 2005

Adran 13(yn rhannol)

1 Mawrth 2005

Adran 14 (yn rhannol)

1 Mawrth 2005

Adran 16 (yn rhannol)

1 Mawrth 2005

Adran 17

1 Mawrth 2005

Adran 18

1 Ebrill 2005

Adran 20

1 Mawrth 2005

Adran 21

1 Mawrth 2005

Adran 22

1 Mawrth 2005

Adran 23

1 Mawrth 2005

Adran 24

1 Ebrill 2005

Adran 44 (yn rhannol)

1 Ebrill 2005

Adran 44 (y gweddill)

1 Gorffennaf

Adran 48 (yn rhannol) a pharagraffau 1, 2, 5 a 7 o Atodlen 4

1 Mawrth 2005

Adran 50

1 Mawrth 2005

Adran 51 (yn rhannol)

1 Ebrill 2005

Adran 52

1 Gorffennaf

Adran 53

1 Mawrth 2005

Adran 54

1 Mawrth 2005

Adran 55

1 Ebrill 2005

Adran 57

1 Mawrth 2005

Adran 60 o ran Cymru a Lloegr

1 Mawrth 2005

Rhan 1 o Atodlen 5

1 Mawrth 2005

Rhan 2 o Atodlen 5 (yn rhannol)

1 Mawrth 2005

Rhannau 3 a 4 o Atodlen 5

1 Ebrill 2005