Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r Gorchymyn hwn, sy'n dod i rym ar 31 Ionawr 2005, yn diwygio Gorchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993(1) er mwyn gweithredu'r canlynol yng Nghymru —

Mae'r prif newidiadau i Orchymyn Iechyd Planhigion (Prydain Fawr) 1993 fel y mae'n gymwys yng Nghymru fel a ganlyn —

(a)diwygio'r diffiniad o “Directive 2000/29/EC” i ymgorffori diwygiadau a wnaed iddo gan Gyfarwyddebau 2003/47/EC, 2003/116/EC, 2004/31/EC, 2004/70/EC ac Erthygl 20 o'r Ddeddf ac Atodiad II iddi ynghylch yr Amodau Derbyn y cyfeiriwyd atynt uchod (para. 1(a) o'r Atodlen);

(b)diwygio'r diffiniad o “the Euro-Mediterranean area” ac “Europe” i ddileu'r cyfeiriadau at Gyprus, Malta, Estonia, Latfia a Lithiwania (para. 1(b) ac (c) o'r Atodlen);

(c)diwygio'r diffiniad o “European Community” (para. 1(ch) o'r Atodlen);

(ch)diwygio'r diffiniad o “official statement” mewn perthynas â phlanhigion, cynhyrchion planhigion a phethau eraill sy'n cael eu mewnforio o'r tu allan i'r Gymuned Ewropeaidd i gynnwys, yn achos mewnforion o'r Swistir, pasbort planhigion Swisaidd (para. 1(d) o'r Atodlen);

(d)diwygio'r diffiniad o “plant passport” i gynnwys, yn achos mewnforion o'r Swistir, pasbortau planhigion Swisaidd, a mewnosod diffiniad o “Swiss plant passport” (para. 1(dd) ac (e) a phara. (19) o'r Atodlen);

(dd)diwygio erthyglau 3(1)(e), 9 ac 11(2) er mwyn cynnwys cydnabyddiaeth o basbort planhigion Swisaidd ar gyfer cynhyrchion planhigion penodol a fewnforir o'r Swistir ac, mewn perthynas ag erthygl 3(1)(e), er mwyn eithrio cynhyrchion planhigion penodol a fewnforir o'r Swistir rhag y gwaharddiad ar fewnforio (para. (2), (3), (4) a (19) o'r Atodlen);

(e)diwygio'r Parth Gwarchod ar gyfer Globodera pallida (Stone) Behrens i gynnwys Latfia, Slofacia a Slofenia (para. (5)(a), (16)(c) ac (20) o'r Atodlen);

(f)sefydlu Parth Gwarchod newydd ar gyfer Daktulosphaira vitifoliae (Fitch) yng Nghyprus a'r diwygiadau cyfatebol i'r trefniadau ynglyn â phasbortau planhigion ar gyfer Vitis L. (paragraffau (5)(a), (16)(c) ac (20)(a) o'r Atodlen);

(ff)diwygio'r Parth Gwarchod ar gyfer Leptinotarsa decemlineata Say i gynnwys Cyprus a Malta (para. (5)(b) ac (20)(ch) o'r Atodlen);

(g)diwygio'r Parth Gwarchod ar gyfer feirws necrotig gwythïen felen betys i gynnwys Lithiwania ac i eithrio Sweden (para. (6), (16)(b) a 22(a) o'r Atodlen);

(ng)tynnu Eotetranychus orientalis Klein oddi ar y rhestr o blâu planhigion na wyddys eu bod yn digwydd yn y Gymuned ac sy'n berthnasol i'r Gymuned gyfan a'i roi ar y rhestr o blâu planhigion y gwyddys eu bod yn digwydd yn y Gymuned a'u bod yn berthnasol i'r Gymuned gyfan (para. (7) ac (8) o'r Atodlen);

(h)diwygio'r Parth Gwarchod ar gyfer y feirws Citrus tristeza i gynnwys Malta (para. (11), (16)(ch) a (22)(b) o'r Atodlen);

(i)tynnu Cyprus a Malta oddi ar y rhestr o darddwledydd mewn perthynas â chloron o rywogaeth Solanum L. a'u croesrywiau (para (10)(a) o'r Atodlen);

(j)tynnu Cyprus, Malta, Estonia, Latfia a Lithiwania ac Algeria oddi ar y rhestr o wledydd sy'n ddarostyngedig i ofynion ynglyn â phridd a chyfrwng tyfu ac ychwanegu Georgia at y rhestr honno (para. (12)(b), (14)(b) a (18)(a)(iii) o'r Atodlen);

(l)tynnu'r Swistir oddi ar y rhestr o drydydd gwledydd y gwaherddir cyflwyno i Gymru ohonynt blanhigion Vitis L. nad ydynt yn ffrwythau (para. (12)(c) o'r Atodlen);

(ll)diwygio Atodlen 5, Rhan B, adran I, eitem 2 i gynnwys y darnau perthnasol o blanhigion o'r rhywogaeth y cyfeirir ati yn yr eitem honno (para. (18)(a)(ii) o'r Atodlen);

(m)cyflwyno gofynion ynglyn â phasbortau planhigion a thystysgrifau ffytoiechydol ar gyfer ffrwythau Vitis L. (para. (17)(c) a 18(b)(ii) o'r Atodlen);

(n)amrywiol ddiwygiadau ynglyn ag Erwinia amylovora (Burr.) Winsl. et al., fel a ganlyn:

(i)diwygiad i'r rhestr o blanhigion lletyol sy'n gallu lledaenu Erwinia amylovora (Burr.) Winsl. et al. i gynnwys Amelanchier Med., Photinia davidiana (Dcne.) Cardot a phob rhywogaeth o Sorbus L. (para. (9), (10), (13), (14)(a), (15), (16)(ch), (17)(a) a (b) a (18)(b)(i) o'r Atodlen);

(ii)diwygiadau i'r darpariaethau am “buffer zones” yn Atodlen 4, Rhan B, eitem 21 (para. (16)(ch) o'r Atodlen);

(iii)cyflwyno gofyniad am dystiolaeth ddogfennol am ffeithiau penodol ar gyfer symud cychod gwenyn yn Atodlen 4, Rhan B, eitem 21 (para. (16)(ch) o'r Atodlen);

(iv)diwygio'r Parth Gwarchod i gynnwys Latfia, Lithiwania, Slofenia a Slofacia (para. (10), (13), (16)(ch) a (21) o'r Atodlen);

(v)tynnu'r Swistir oddi ar y rhestr o drydydd gwledydd y gwaherddir cyflwyno ohonynt blanhigion a phaill byw ar gyfer peillio planhigion sy'n gallu lledaenu Erwinia amylovora (Burr.) Winsl. et al., ac eithrio mewn perthynas â Cotoneaster Ehrh. a Photinia davidiana (Dcne.) Cardot (para. (13) o'r Atodlen);

(o)ychwanegu Iran at y rhestr o wledydd lle gwyddys bod Tilletia indica Mitra yn digwydd a bod rhaid bodloni gofynion arbennig ar ei gyfer er mwyn cyflwyno i Brydain Fawr a symud iddi ac o'i mewn hadau a grawn o'r genera Triticum, Secale ac X Triticosecale (erthygl (14)(c), (18)(a)(i) a (18)(a)(iv) o'r Atodlen);

(p)mewnosod Atodlen 5A newydd sy'n darparu'r rhestri o blanhigion, cynhyrchion planhigion a phethau eraill y caniateir eu masnachu rhwng y Gymuned a'r Swistir gyda phasbort planhigion a'r planhigion, y cynhyrchion planhigion a'r pethau eraill hynny y caniateir eu masnachu felly heb basbort planhigion (para. (19) o'r Atodlen).

Rhoes Gorchymyn Iechyd Planhigion (Diwygio) (Cymru) 2003 ar waith Gyfarwyddeb y Comisiwn 2003/46/EC (OJ Rhif L 138, 5.6.2003, t. 45) a ddiwygiodd rhai parthau gwarchod sy'n agored i risgiau penodol i iechyd planhigion yn y Gymuned yng Nghyfarwyddeb y Comisiwn 2001/32/EC (OJ Rhif L 127, 9.5.01, t. 38); a Chyfarwyddeb y Comisiwn 2003/47/EC (OJ Rhif L 138, 5.6.2003, t. 47) ar fesurau diogelu yn erbyn cyflwyno i'r Gymuned organeddau sy'n niweidiol i blanhigion neu gynhyrchion planhigion ac yn erbyn eu lledaenu o fewn y Gymuned;

Mae arfarniad rheoliadol wedi'i baratoi ac mae ar gael oddi wrth yr Is-adran Iechyd Planhigion, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd CF10 3NQ.