xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
Offerynnau Statudol Cymru
ADDYSG, CYMRU
Wedi'u gwneud
18 Ionawr 2005
Yn dod i rym
21 Ionawr 2005
Drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 4(1), (2) a (3) a 42(6) a (7) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998(1) ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(2), ac ar ôl ymgynghori â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn unol ag adran 42(9) o'r Ddeddf honno, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Rheoliadau canlynol:
1. Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 21 Ionawr 2005.
2. Diwygir Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000(3) fel a ganlyn.
3. Yn Atodlen 1—
(a)yn lle paragraff 13 rhodder y canlynol —
“13. Os yw'n hysbys,
(a)y dyddiad pan ddechreuodd yr athro neu'r athrawes yn ei swydd gyntaf yn athro neu athrawes gymwysedig;
(b)y dyddiad pryd y cyflogwyd yr athro neu'r athrawes am y tro cyntaf (os o gwbl) fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi o dan baragraff 4 o Atodlen 1 i Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003(4); a
(c)y dyddiad pryd y cyflogwyd yr athro neu'r athrawes am y tro cyntaf (os o gwbl) fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi yn rhinwedd rheoliad 18(2)(5) o Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003.”; a
(b)hepgorer paragraff 14(d) a'r “a” o'i flaen.
4. Yn Atodlen 2—
(a)yn lle paragraff 5 rhodder y canlynol —
“5. Os yw'n hysbys,
(a)y dyddiad pan ddechreuodd yr athro neu'r athrawes yn ei swydd gyntaf yn athro neu athrawes gymwysedig;
(b)y dyddiad pryd y cyflogwyd yr athro neu'r athrawes am y tro cyntaf (os o gwbl) fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi o dan baragraff 4 o Atodlen 1 i Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003; a
(c)y dyddiad pryd y cyflogwyd yr athro neu'r athrawes am y tro cyntaf (os o gwbl) fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi yn rhinwedd rheoliad 18(2) o Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003.”; a
(b)hepgorer paragraff 6(d) ar “a” o'i flaen.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unol ag adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(6)
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
18 Ionawr 2005
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau )
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Cyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (Swyddogaethau) 2000 (“Rheoliadau 2000”) mewn perthynas â materion penodol sydd i'w cofnodi ar y gofrestr a gedwir gan Gyngor Addysgu Cyffredinol Cymru (“y Cyngor”). Mae'r gofrestr i ddangos y dyddiad y cyflogwyd person am y tro cyntaf fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi yn unol â darpariaethau Rheoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Cymru) 2003, fel y'u diwygiwyd gan Reoliadau Addysg (Trefniadau Ymsefydlu ar gyfer Athrawon Ysgol) (Diwygio) (Cymru) 2004 (“y Rheoliadau Ymsefydlu”). Bydd hyn yn galluogi'r Cyngor i fonitro a ganiateir i berson barhau dan gyflogaeth fel athro cyflenwi neu athrawes gyflenwi o dan y Rheoliadau Ymsefydlu. Mae'r Rheoliadau Ymsefydlu yn gosod terfynau ar y cyfnodau pan geir cyflogi person, sydd heb wasanaethu cyfnod ymsefydlu, yn athro cyflenwi neu'n athrawes gyflenwi.
Mae'r Rheoliadau hyn hefyd yn diwygio Atodlenni 1 a 2 i Reoliadau 2000 fel nad oes angen mwyach i'r Cyngor gofnodi ar y gofrestr y dyddiad pryd y dechreuodd cwrs hyfforddi cychwynnol athrawon ar gyfer athro neu athrawes a phryd y cwblhawyd y cwrs.
1998 p.30. Mae adrannau 2 i 7 yn gymwys mewn perthynas â Chyngor Addysgu Cyffredinol Cymru yn rhinwedd adran 9. Diwygir adran 4 yn rhagolygol gan baragraff 4(2) o Atodlen 12 i Ddeddf Addysg 2002 (p.32), a diwygiwyd hi gan baragraff 77 o Atodlen 21 i'r Ddeddf honno. I gael ystyr “prescribed” a “regulations” gweler adran 43(1).
Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672), ac adran 211 o Ddeddf Addysg 2002.
O.S. 2000/1979 (Cy.140), fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2001/2496 (Cy.200) ac O.S. 2004/1741 (Cy. 180).
O.S. 2003/543 (Cy. 77). Amnewidiwyd paragraff 4 o Atodlen 1 gan O.S. 2004/872 (Cy.87).
Mewnosodwyd Rheoliad 18(2) gan O.S. 2004/872 (Cy. 87).