17.—(1) Ni chaiff unrhyw berson—
(a)cyflwyno cynnyrch i Gymru o drydedd wlad, neu
(b)cyflwyno i Gymru gynnyrch Erthygl 9 y mae'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer ei gyrchfan wedi'i leoli yng Nghymru,
oni bai bod hysbysiad o'i gyflwyno wedi'i roi yn unol â'r rheoliad hwn i'r milfeddyg swyddogol wrth safle arolygu ar y ffin a ddynodwyd ac a gymeradwywyd ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar y cynnyrch hwnnw a bod copi ohono wedi'i anfon i swyddfa'r Comisiynwyr sy'n gyfrifol am yr ardal y mae'r safle arolygu hwnnw ar y ffin wedi'i leoli ynddi.
(2) Pan fydd y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno cynnyrch Erthygl 9 a'r safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyrchfan cynnyrch Erthygl 9 ill dau yng Nghymru, ni chaiff neb roi'r cynnyrch gerbron mewn safle arolygu ar y ffin oni bai bod hysbysiad o'i roi gerbron wedi'i roi yn unol â'r rheoliad hwn i'r milfeddyg swyddogol wrth safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyrchfan a ddynodwyd ac a gymeradwywyd ar gyfer gwiriadau milfeddygol ar y cynnyrch hwnnw a bod copi o'r hysbysiad hwnnw wedi'i anfon i swyddfa'r Comisiynwyr sy'n gyfrifol am yr ardal y mae'r safle arolygu hwnnw ar y ffin wedi'i leoli ynddi.
(3) Rhaid i'r hysbysiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraffau (1) a (2)
(a)bod ar y ffurf a geir yn Rhan 1 o'r ddogfen fynediad filfeddygol gyffredin;
(b)cael ei gyflenwi ar ffurf electronig;
(c)bod yn Gymraeg neu yn Saesneg a hefyd yn un o ieithoedd swyddogol y gyrchwlad yn y tiriogaethau perthnasol y cyfeirir atynt yn yr hysbysiad, os gwlad wahanol i'r Deyrnas Unedig yw'r gyrchwlad;
(ch)cyrraedd y safle arolygu ar y ffin—
(i)o leiaf chwe awr gwaith, yn achos cynnyrch sy'n dod i mewn i'r wlad ar awyren, a
(ii)o leiaf un diwrnod gwaith, mewn unrhyw achos arall,
cyn bod y cynnyrch yn cael ei roi i'r milfeddyg swyddogol wrth y safle arolygu ar y ffin yn unol â rheoliad 18; ac
(d)yn achos hybsysiad a roddwyd i safle arolygu ar y ffin ar gyfer y gyrchfan, pennu pa wiriadau sydd wedi'u gwneud wrth y safle arolygu ar y ffin ar gyfer cyflwyno.
(4) Ym mharagraff (3) ystyr “oriau gwaith” (“working hours”) a “diwrnod gwaith” (“working day”) yw oriau a diwrnod pan fydd y safle arolygu ar y ffin ar agor ar gyfer rhoi cynhyrchion i'r milfeddyg swyddogol yn unol â rheoliad 18.