(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Yn bennaf, mae'r Gorchymyn hwn yn cwblhau'r broses o ddod â darpariaethau Deddf Archwilio Cyhoeddus (Cymru) 2004 (“y Ddeddf”) i rym yng Nghymru a Lloegr.

Mae'r cyfeiriadau isod at adrannau neu Atodlenni, oni nodir fel arall, yn gyfeiriadau at adrannau o'r Ddeddf neu Atodlenni iddi.

Mae erthygl 2 o'r Gorchymyn hwn yn dod â darpariaethau'r Ddeddf a restrir yng ngholofn gyntaf Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Ebrill 2005. Oni phennir fel arall yn ail golofn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn, neu yn Atodlen 2 iddo, daw'r darpariaethau hynny i rym ar y dyddiad hwnnw at bob diben.

Effaith gyffredinol darpariaethau'r Ddeddf y mae'r Gorchymyn hwn yn dod â hwy i rym yw rhoi nifer o swyddogaethau newydd i Archwilydd Cyffredinol Cymru. Effaith fwyaf arwyddocaol y swyddogaethau newydd yw y bydd yr Archwilydd Cyffredinol, o'r dyddiad y daw'r Gorchymyn hwn i rym, yn arfer y rhan fwyaf o'r swyddogaethau a arferir ar hyn o bryd gan y Comisiwn Archwilio ar gyfer Awdurdodau Lleol a'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yng Nghymru a Lloegr (“y Comisiwn Archwilio”).

Mae Rhan 1 o'r Ddeddf (adrannau 1 i 11) yn ymdrin â darpariaethau sy'n ymwneud â swyddogaethau Archwilydd Cyffredinol Cymru. Mae Rhan 1 yn ymdrin â sut y cyllidir y swyddfa honno ac mae hefyd yn ymdrin â materion staffio a materion gweinyddol ac mae'n darparu ar gyfer swyddogaethau ychwanegol yr Archwilydd Cyffredinol.

Mae Rhan 2 o'r Ddeddf (adrannau 12 i 59) yn ymdrin â chyrff llywodraeth leol yng Nghymru (fel y'u diffinnir yn adran 12) yng nghyd-destun y trefniadau newydd a gynigir gan y Ddeddf. O dan ddarpariaethau Deddf y Comisiwn Archwilio 1998 (“Deddf 1998”), mae'r Comisiwn Archwilio ar hyn o bryd yn gyfrifol am benodi archwilwyr cyfrifon y cyrff hyn. O ran cyrff llywodraeth leol yng Nghymru, mae'r Ddeddf yn trosglwyddo'r cyfrifoldeb hwnnw i Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Mae Rhan 3 o'r Ddeddf (adrannau 60 i 64) yn ychwanegu cyfrifoldeb am archwilio cyfrifon cyrff GIG Cymru (fel y'u diffinnir yn adran 60) at gylch gwaith Archwilydd Cyffredinol Cymru.

Mae Rhan 4 o'r Ddeddf (adrannau 65 i 75) yn cynnwys darpariaethau amrywiol, trosiannol a chyffredinol.

Mae Atodlen 1 yn ymdrin â diwygiadau i'r broses o archwilio trefniadau Gwerth Gorau o dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1999. Mae Atodlen 2 yn ymdrin â mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol sy'n angenrheidiol oherwydd y Ddeddf. Mae Atodlen 3, a gychwynnwyd eisoes, yn nodi'r trefniadau ar gyfer cynlluniau trosglwyddo statudol manwl sy'n ofynnol o dan y Ddeddf ac mae Atodlen 4 yn nodi'r diddymiadau perthnasol.

Mae erthygl 3 ac Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn gwneud darpariaethau trosiannol ac arbedion.

Mae paragraff 1 o Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn sicrhau na all Archwilydd Cyffredinol Cymru godi ar Gynulliad Cenedlaethol Cymru am archwilio'i gyfrifon am y flwyddyn ariannol 2004—05. Mae'r ddarpariaeth hon yn angenrheidiol gan y bydd y gwaith archwilio yn cael ei wneud ar ôl i'r Ddeddf ddod i rym, ond mae'n ymwneud â chyfnod pan oedd adran 93(3) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 yn gwahardd Archwilydd Cyffredinol Cymru rhag codi am y gwaith hwnnw.

Mae paragraff 2 o Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn cadw pŵer y Cynulliad i wneud rheoliadau cyfrifon ac archwilio o dan Ddeddf 1998 o ran cyfrifon am y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau cyn 1 Ebrill 2005. Am y blynyddoedd ariannol ar ôl hynny, bydd y Cynulliad yn gwneud rheoliadau o'r fath o dan adran 39 o'r Ddeddf.

Mae paragraff 3 o Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn arbed, o ran cyrff llywodraeth leol yng Nghymru, ddarpariaethau adran 18 o Ddeddf 1998, sy'n darparu pwerau i adennill symiau nad oes cyfrif amdanynt, a darpariaethau perthnasol eraill y Ddeddf honno. (Nid yw'r arbediad yn gymwys i un dosbarth ar gyrff llywodraeth leol yng Nghymru, sef awdurdodau heddlu, gan fod darpariaethau perthnasol Deddf 1998 eisoes wedi cael eu diddymu, o'u rhan, gan Ddeddf Llywodraeth Leol 2000). Nid yw'r arbediad ond yn gymwys i gyfrifon y cyrff dan sylw am y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau cyn 1 Ebrill 2005. Mae hefyd yn gyfyngedig i sefyllfa pan fo etholwr llywodraeth leol ar gyfer ardal corff perthnasol wedi cyflwyno gwrthwynebiad o dan adran 16(1)(a) o Ddeddf 1998.

Is-adrannau (1) i (5) o adran 54, sy'n gosod cyfyngiadau ar yr amgylchiadau pan fydd modd datgelu gwybodaeth benodol a gafwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru neu archwilydd, yw unig ddarpariaethau'r Ddeddf na fyddant yn effeithiol pan ddaw'r Gorchymyn hwn i rym.