Search Legislation

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2005

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 367 (Cy.33)

CAFFAEL TIR, CYMRU

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2005

Wedi'i wneud

22 Chwefror 2005

Yn dod i rym

1 Ebrill 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 149(3)(a) a 333(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990(1) ac adrannau 143 a 147 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988(2), ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru(3), a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol:

Enwi, cychwyn a chymhwyso

1.—(1Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2005 a daw i rym ar 1 Ebrill 2005.

(2Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Terfyn gwerth blynyddol

2.  £29,200 yw'r swm a ragnodir at ddibenion adran 149(3)(a) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990.

Dirymu

3.  Dirymir drwy hyn Orchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2000(4) .

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998(5).

D. Elis-Thomas

Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol

22 Chwefror 2005

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae'r darpariaethau ynglŷn â hysbysiadau malltod yn adrannau 149 i 171 o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 (“y Ddeddf”) yn galluogi personau sydd â buddiannau penodol mewn categorïau o dir, a bennir yn Atodlen 13 i'r Ddeddf (gan gynnwys tir y mae cynigion cynllunio a chynigion priffyrdd penodol yn effeithio arno), i'w gwneud yn ofynnol i'r awdurdod priodol gaffael eu buddiant yn y tir.

Un o'r buddiannau mewn tir sy'n gymwys i'w diogelu yw buddiant perchen-feddiannydd hereditament (sef hereditament perthnasol o fewn ystyr adran 64(4)(a) i (c) o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 1988) pan na fydd gwerth blynyddol yr hereditament yn fwy nag unrhyw swm a ragnodir gan yr Ysgrifennydd Gwladol (adran 149(3)(a) o'r Ddeddf).

Mae'r pŵer i ragnodi'r swm hwnnw, i'r graddau y mae'n arferadwy o ran Cymru, wedi'i freinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru a, thrwy arfer ei bwerau, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy'r Gorchymyn hwn, yn codi'r terfyn gwerth blynyddol o £24,600 i £29,200 i gymryd ailbrisio'r ardrethi yn y flwyddyn 2005 i ystyriaeth.

Mae'r Gorchymyn hwn yn gymwys i Gymru.

Mae Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2000 (O.S. 2000/1169) (Cy.94) wedi'i ddirymu.

(3)

Gweler Gorchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 (O.S. 1999/672) fel a amrywiwyd gan Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol (Trosglwyddo Swyddogaethau) 2000 (O.S. 2000/253) (Cy.5).

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources