2005 Rhif 367 (Cy.33)

CAFFAEL TIR, CYMRU
CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Gorchymyn Cynllunio Gwlad a Thref (Darpariaethau Malltod) (Cymru) 2005

Wedi'i wneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adrannau 149(3)(a) a 333(7) o Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19901 ac adrannau 143 a 147 o Ddeddf Cyllid Llywodraeth Leol 19882, ac sydd wedi'u breinio bellach yng Nghynulliad Cenedlaethol Cymru3, a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Gorchymyn canlynol: