(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
1.

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru. Maent yn dirymu Rheoliadau Cig (Hylendid ac Archwilio) (Ffioedd) 1998 (O.S. 1998/2095, fel y'i diwygiwyd gan O.S. 2000/656, O.S. 2001/1302 (Cy.79) ac O.S. 2001/3831 (Cy.317)), sy'n rhychwantu Prydain Fawr gyfan, i'r graddau y maent yn gymwys o ran Cymru.

2.

Yr oedd Rheoliadau Cig (Hylendid ac Archwilio) (Ffioedd) 1998 yn rhoi ar waith o ran Prydain Fawr ddarpariaethau Cyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC ar ariannu arolygiadau a rheolaethau milfeddygol sy'n ei gwneud yn ofynnol bod ffioedd yn cael eu casglu am arolygiadau o gig coch ffres, cig dofednod ffres, cig cwningod, cig anifeiliaid hela a ffermir a chig anifeiliaid hela gwyllt a rheolaethau arnynt o dan Gyfarwyddebau penodol y Cyngor. Atodir testun diwygiedig ac a gydgrynhowyd o Gyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC i Gyfarwyddeb y Cyngor 96/43/EC yn OJ Rhif L162, 1.7.96, t.1.

3.

Yng ngoleuni diwygiadau i drefn y Gymuned ar lywodraethu hylendid bwyd sy'n dod yn effeithiol ar 1 Ionawr 2006, Cyfarwyddeb 2004/41/EC Senedd Ewrop a'r Cyngor (OJ Rhif L157, 30.4.2004, t.33; mae testun diwygiedig Cyfarwyddeb 2004/41/EC bellach wedi'i osod mewn Corigendwm (OJ Rhif L195, 2.6.2004, t.12), addesir Cyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC gydag effaith o 1 Ionawr 2006 ymlaen fel bydd yn ofynnol o'r dyddiad hwnnw ymlaen gasglu ffioedd am reolaethau swyddogol ar gig carnolion domestig, cig o ddofednod a lagomorffiaid, cig anifeiliaid hela a ffermir a chig anifeiliaid hela gwyllt o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004 Senedd Ewrop a'r Cyngor sy'n gosod rheolau penodol ar gyfer trefnu rheolaethau swyddogol ar gynhyrchion sy'n dod o anifeiliaid ac a fwriedir i'w bwyta gan bobl (OJ Rhif L139, 30.4.2004, t.206; mae testun diwygiedig Rheoliad (EC) Rhif 854/2004 bellach wedi ei osod mewn Corigendwm, OJ Rhif L226, 25.6.2004, t.83).

4.

Yng ngoleuni'r addasiad i Gyfarwyddeb y Cyngor 85/73/EEC a ddisgrifir ym mharagraff 3, mae'r Rheoliadau hyn yn rhoi ar waith ddarpariaethau'r Gyfarwyddeb honno sydd bellach yn ei gwneud yn ofynnol bod ffioedd i'w casglu am arolygiadau ar gig carnolion domestig, cig o ddofednod a lagomorffiaid, cig anifeiliaid hela a ffermir a chig anifeiliaid hela gwyllt a rheolaethau arnynt o dan Reoliad (EC) Rhif 854/2004.

5.

Mae'r Rheoliadau hyn—

(a)

yn ei gwneud yn ofynnol i'r Asiantaeth hysbysu gweithredydd pob lladd-dy, sefydliad trin anifeiliaid hela a safle torri lle'r arferwyd rheolaethau swyddogol o'r ffi rheolaethau swyddogol sydd bellach i'w chodi o ran y rheolaethau swyddogol hynny (diffinnir y termau “lladd-dy”, “sefydliad trin anifeiliaid hela”, “safle torri”, “rheolaethau swyddogol” a “ffi rheolaethau swyddogol” oll yn rheoliad 2) (rheoliad 3);

(b)

yn darparu bod unrhyw ffi rheolaethau swyddogol a hysbysir yn y modd hwnnw yn daladwy gan y gweithredydd i'r Asiantaeth pan hawlir hi (rheoliad 3);

(c)

yn caniatáu i'r Asiantaeth wrthod arfer unrhyw reolaethau swyddogol eraill mewn mangre benodol, er gwaethaf gorchymyn Llys yn ei gwneud yn ofynnol i weithredydd y fangre dalu ffi rheolaethau swyddogol y mae'n atebol amdani, os yw'r gweithredydd yn methu cydymffurfio â'r gorchymyn (rheoliad 4);

(ch)

yn ei gwneud yn ofynnol i bersonau—

(i)

rhoi i'r Asiantaeth ar hawliad yr wybodaeth honno y caiff yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol er mwyn cyfrifo'r ffi rheolaethau swyddogol neu hysbysu'r gweithredydd ohoni, a

(ii)

rhoi i'r Asiantaeth ar hawliad y dystiolaeth honno y caiff yn rhesymol ei gwneud yn ofynnol i wirhau'r wybodaeth honno (rheoliad 5);

(d)

yn darparu bod person sydd—

(i)

wrth ymateb i hawliad am wybodaeth neu dystiolaeth gan wybod neu yn ddi-hid yn rhoi gwybodaeth dwyllodrus neu gamarweiniol, neu

(ii)

heb esgus rhesymol, yn methu â chydymffurfio o fewn cyfnod rhesymol â hawliad a wnaed am wybodaeth neu dystiolaeth,

yn euog o dramgwydd (rheoliad 5);

6.

Mae Atodlen 2 i'r Rheoliadau hyn yn gosod sut y mae cyfrifo ffi'r rheolaethau swyddogol.

7.

Ni pharatowyd arfarniad rheoliadol llawn ar gyfer yr Offeryn hwn, gan na fydd yn effeithio ar gostau busnes.