Gorchymyn Cyngor Cenedlaethol Cymru dros Addysg a Hyfforddiant (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu'r Cyngor) 2005

Deddf Gwahaniaethu ar Sail Rhyw 1975 (p.65)

4.  Yn adran 23A (gwahaniaethu gan Gynghorau Cyllido Addysg Bellach ac Addysg Uwch):

(a)hepgorer “the National Council for Education and Training for Wales”;

(b)mewnosoder “and for the National Assembly for Wales in carrying out its functions under Part 2 of the Learning and Skills Act 2000” ar ôl “2000”.