Gorchymyn Awdurdod Datblygu Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru a Diddymu) 2005

Diwygiadau i, diddymiadau a dirymiadau o ddeddfwriaeth bresennolLL+C

7.—(1Ar y dyddiad trosglwyddo—

(a)diwygir darpariaethau Deddf 1975 a bennir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn unol â'r atodlen honno;

(b)diwygir y deddfiadau a bennir yn Rhan 1 o Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn yn unol â'r atodlen honno; ac

(c)diddymir neu dirymir y deddfiadau a bennir yn Rhan 2 o Atodlen 2 o'r Gorchymyn hwn.

(2Mae'r diwygiadau, y diddymu a'r dirymu deddfiadau yn estyn i'r un gradd â'r deddfiad y'i diwygir, diddymir neu y'i dirymir.

Gwybodaeth Cychwyn

I1Ergl. 7 mewn grym ar 23.11.2005, gweler ergl. 1(1)