xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Mae adran 28 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 yn rhoi i Gynulliad Cenedlaethol Cymru (y “Cynulliad”) bwerau i ddiwygio cyrff cyhoeddus penodol yng Nghymru, sef y cyrff a restrir yn Atodlen 4 i'r Ddeddf honno. Mae'r adran yn cynnwys y pŵer i drosglwyddo swyddogaethau ac i ddiddymu cyrff o'r fath pan fo'u holl swyddogaethau wedi'u trosglwyddo.

Mae'r Gorchymyn hwn yn trosglwyddo swyddogaethau, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau Bwrdd Croeso Cymru (y “Bwrdd”) i'r Cynulliad, yn darparu ar gyfer trosglwyddo staff o'r Bwrdd i'r Cynulliad ac yn gwneud darpariaethau canlyniadol, cysylltiedig, trosiannol ac atodol priodol. Mae hefyd yn diddymu'r Bwrdd.

Mae erthygl 2 yn darparu ar gyfer trosglwyddo swyddogaethau'r Bwrdd i'r Cynulliad ar 1 Ebrill 2006. Mae'r Erthygl hon yn darparu hefyd ar gyfer trosglwyddo staff, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r Bwrdd i'r Cynulliad. Trosglwyddir staff ar sail yr egwyddorion a sefydlwyd gan Reoliadau Trosglwyddo Ymgymeriadau (Diogelu Cyflogaeth) 1981 (O.S. 1981/1794).

Mae erthygl 3 yn gwneud darpariaethau trosiannol penodol ynglŷn â'r eiddo, yr hawliau a'r rhwymedigaethau hynny ac ar gyfer rhoi'r Cynulliad yn lle'r Bwrdd ym mhob offeryn, contract neu achos cyfreithiol perthnasol. Mae hefyd yn darparu bod adroddiad o gyfrif y Bwrdd ar gyfer y flwyddyn ariannol 2005-2006 i'w baratoi gan y Cynulliad. Rhaid anfon adroddiad o gyfrif y Bwrdd ar gyfer 2005-2006 at Archwilydd Cyffredinol Cymru a'i osod wedyn gerbron y Cynulliad ynghyd ag adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol yn y dull arferol.

Mae erthygl 4 yn darparu bod y Bwrdd yn cael ei ddiddymu yn union ar ôl i swyddogaethau, eiddo, hawliau a rhwymedigaethau'r Bwrdd gael eu trosglwyddo i'r Cynulliad.

Mae erthygl 5 yn gweud darpariaeth ffurfiol i adlewyrchu cydweithio rhwng y Cynulliad a'r Bwrdd er mwyn hwyluso trosglwyddiad y swyddogaethau.

Mae erthygl 6 yn dwyn i rym ar 1 Ebrill 2006 Atodlenni 1 a 2 i'r Gorchymyn, sy'n diwygio deddfwriaeth sylfaenol ac is-ddeddfwriaeth o ganlyniad i drosglwyddo swyddogaethau a diddymu'r Bwrdd ac yn gysylltiedig â hynny. I Ddeddf Datblygu Twristiaeth 1969 ac i Ddeddf Twristiaeth (Ei Hyrwyddo Dramor) (Cymru) 1992 y gwneir y newidiadau mwyaf sylweddol. Dirymwyd cyfeiriadau diangen at Fwrdd Croeso Cymru.