Darpariaethau trosiannol3
1
Nid oes dim yn erthygl 2 nac Atodlenni 1 a 2 sy'n effeithio ar ddilysrwydd unrhyw beth sy'n cael ei wneud gan y Bwrdd neu mewn perthynas ag ef cyn bod ei swyddogaethau yn cael eu trosglwyddo.
2
Caniateir i unrhyw beth (gan gynnwys achos cyfreithiol) gael ei barhau gan y Cynulliad neu mewn perthynas â'r Cynulliad os yw—
a
yn ymwneud ag unrhyw un o swyddogaethau'r Bwrdd neu ag unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau sy'n cael eu trosglwyddo o dan erthygl 2(2), a
b
wrthi'n cael ei wneud gan y Bwrdd neu mewn perthynas ag ef pan fo'r swyddogaethau a enwyd yn cael eu trosglwyddo.
3
Mae unrhyw beth—
a
a wnaed gan y Bwrdd at ddibenion unrhyw un o'i swyddogaethau neu mewn cysylltiad â'r swyddogaeth honno neu gan y Bwrdd at ddibenion unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau sy'n cael eu trosglwyddo o dan erthygl 2(2) neu mewn cysylltiad â hwy; a
b
sy'n cael effaith yn union cyn bod ei swyddogaethau yn cael eu trosglwyddo,
i gael effaith fel petai wedi'i wneud gan y Cynulliad.
4
Mae'r Cynulliad yn cael ei roi yn lle'r Bwrdd mewn unrhyw offerynnau, contractau neu achosion cyfreithiol sy'n ymwneud—
a
ag unrhyw un o swyddogaethau'r Bwrdd, a
b
ag unrhyw eiddo, hawliau neu rwymedigaethau sy'n cael eu trosglwyddo o dan erthygl 2(2),
ac sydd wedi'u gwneud neu wedi'u cychwyn cyn i'w swyddogaethau gael eu trosglwyddo.
5
Ar y dyddiad trosglwyddo, bydd rhwymedigaethau'r Bwrdd, y Cynulliad ac Archwilydd Cyffredinol Cymru y cyfeirir atynt isod a gynhywsir yn adran 6 o Ddeddf Datblygu Twristiaeth 19693 yn effeithiol o ran y flwyddyn ariannol 2005 i 2006 yn unig ond fel arall diddymir hwy:
a
rhwymedigaeth y Bwrdd o dan adran 6(1) i baratoi datganiad o gyfrif, gyda'r arbediad bod y rhwymedigaeth yn cael ei throsglwyddo i'r Cynulliad,
b
rhwymedigaeth y Cynulliad o dan adran 6(3) i drosglwyddo'r datganiad o gyfrif i Archwilydd Cyffredinol Cymru, ac
c
rhwymedigaeth Archwilydd Cyffredinol Cymru o dan adran 6(4) i archwilio ac ardystio'r datganiad o gyfrif a gosod copïau o'r datganiad o gyfrif gerbron y Cynulliad ynghyd ag adroddiad arno.