Pŵer i godi am gyfleusterau sy'n cael eu darparu sy'n ymwneud â mabwysiadu gydag elfen dramor3

1

Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo cyfleusterau4 yn cael eu darparu gan awdurdod lleol yng Nghymru mewn cysylltiad â—

a

mabwysiadu plentyn y daethpwyd ag ef i mewn i'r Deyrnas Unedig at y diben o'i fabwysiadu, neu

b

mabwysiad Confensiwn5, mabwysiad tramor6 neu unrhyw fabwysiad arall sy'n cael ei wneud o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i Ynysoedd Prydain.

2

Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff awdurdod lleol godi ffi ar bersonau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) am ddarparu'r cyfleusterau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4).

3

Y personau y ceir codi ffi arnynt yw—

a

darpar fabwysiadydd; neu

b

mabwysiadydd.

4

Y cyfleusterau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—

a

cyfleusterau a ddarperir yn unol â Rhan 4 o Reoliadau'r Asiantaethau i unrhyw berson sy'n dod o fewn rheoliad 3(3) mewn cysylltiad â mabwysiadu plentyn sydd i'w ddwyn i'r Deyrnas Unedig ar gyfer mabwysiad, mabwysiad tramor neu unrhyw fabwysiad a gyflawnir o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i Ynysoedd Prydain ac eithrio:

i

darparu cwnsela nad yw'n cael ei ddilyn gan gais ysgrifenedig, a gafwyd gan awdurdod lleol, am asesiad o addasrwydd i fabwysiadu plentyn sy'n arfer preswylio y tu allan i Ynysoedd Prydain; a

ii

darparu gwybodaeth cyn i awdurdod lleol gael cais am asesiad o addasrwydd i fabwysiadu plentyn sy'n arfer preswylio y tu allan i Ynysoedd Prydain.

b

cyfleusterau sy'n cael eu darparu wrth gyflawni unrhyw swyddogaeth a osodir ar awdurdod lleol gan y Rheoliadau Elfen Dramor neu'n unol â hwy neu gan y Ddeddf fel y cafodd ei hamrywio neu ei chymhwyso gan y Rheoliadau Elfen Dramor ac eithrio:

i

cyfleusterau a ddarperir yn unol â rheoliad 5 o'r Rheoliadau Elfen Dramor; a

ii

darparu cwnsela nad yw'n cael ei ddilyn gan gais ysgrifenedig, a gafwyd gan awdurdod lleol, am asesiad o addasrwydd i fabwysiadu plentyn, yn unol â rheoliad 14(1) o'r Rheoliadau Elfen Dramor; a

iii

darparu gwybodaeth cyn i awdurod lleol gael cais ysgrifenedig am asesiad o addasrwydd i fabwysiadu plentyn, yn unol â rheoliad 14(1) o'r Rheoliadau Elfen Dramor;

iv

darparu gwybodaeth i'r darpar fabwysiadydd, cyfarfod â'r darpar fabwysiadydd neu ddarparu cwnsela i'r darpar fabwysiadydd yn unol â rheoliad 19(2) o'r Rheoliadau Elfen Dramor; a

v

cyflwyno adroddiad yn unol â rheoliad 29(2) o'r Rheoliadau Elfen Dramor.

c

adroddiad a gyflwynir i awdurdod tramor perthnasol pan na fo'r adroddiad yn ofyniad gwneud mabwysiad Confensiwn neu fabwysiad tramor o dan gyfraith gwlad dramor lle mae'r plentyn yn arfer preswylio.

5

Rhaid i'r ffi—

a

fod yn rhesymol a pheidio â bod yn fwy na'r costau a'r treuliau a dynnwyd yn briodol gan yr awdurdod lleol wrth ddarparu'r cyfleusterau; a

b

beidio â chynnwys unrhyw elfen ar gyfer costau a threuliau a dynnwyd gan yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â:

i

cwynion a wnaed ynglŷn ag unrhyw agwedd ar Wasanaeth Mabwysiadu'r awdurdod lleol;

ii

sylwadau a gyflwynir i'r awdurdod lleol yn unol â rheoliad 28 o Reoliadau'r Asiantaethau; neu

iii

adolygiad o ddyfarniad o gymhwyster o fewn ystyr adran 12 o'r Ddeddf.

6

Rhaid i'r awdurdod lleol, ar gais rhesymol y person y codir arno, ddarparu manylion am y dull a ddefnyddiwyd i gyfrifo'r ffi.