(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn galluogi awdurdodau lleol i godi am gyfleusterau a ddarperir mewn amgylchiadau lle byddai codi am wasanaethau yn cael ei wahardd fel arall o dan adran 95 o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002. Mae'r Rheoliadau yn gymwys o ran Cymru a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.
Mae rheoliad 3 yn ymwneud â chyfleusterau sy'n cael eu darparu gan awdurdodau lleol ynglŷn â mabwysiadu plant sydd yn arfer preswylio y tu allan i Ynysoedd Prydain, yn unol â Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005 a Rheoliadau Mabwysiadu gydag Elfen Dramor 2005. Caiff awdurdod lleol godi ffi am ddarparu cyfleusterau o'r fath ar gyfer person sy'n dymuno mabwysiadu plentyn o'r fath neu ar gyfer person sydd wedi mabwysiadu plentyn o'r fath. Rhaid i'r ffi fod yn rhesymol a bod wedi'i chyfyngu i'r costau a'r treuliau a dynnwyd gan yr awdurdod lleol wrth ddarparu'r cyfleusterau. Rhaid iddi beidio â chynnwys unrhyw elfen sy'n ymwneud ag unrhyw adolygiad o ddyfarniad o gymhwyster o'i eiddo ar addasrwydd darpar fabwysiadydd i fabwysiadu plentyn.