2005 Rhif 3114 (Cy.234)
Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Ffioedd Rhagnodedig) (Mabwysiadu gydag Elfen Dramor) (Cymru) 2005
Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo dan adran 9, 11(2) a (3), 140(7) ac (8) a 144(2) o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 20021, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:
Enwi, cychwyn a chymhwyso1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Awdurdodau Lleol (Ffioedd Rhagnodedig) (Mabwysiadu gydag Elfen Dramor) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli2
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “awdurdod tramor perthnasol” (“relevant foreign authority”) yw person y tu allan i Ynysoedd Prydain, sy'n cyflawni swyddogaethau yn y wlad lle mae'r plentyn, neu lle mae'r darpar fabwysiadydd, yn arfer preswylio, ac sy'n cyfateb i swyddogaethau asiantaeth fabwysiadu fel a ddiffinnir gan adran 2(1) o'r Ddeddf neu i swyddogaethau'r Ysgrifennydd Gwladol o ran mabwysiadu gydag elfen dramor;
ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002;
ystyr “Rheoliadau'r Asiantaethau” (“the Agencies Regulations”) yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 20052;ac
ystyr “y Rheoliadau Elfen Dramor” (“the Foreign Element Regulations”) yw Rheoliadau Mabwysiadu gydag Elfen Dramor 20053.
Pŵer i godi am gyfleusterau sy'n cael eu darparu sy'n ymwneud â mabwysiadu gydag elfen dramor3
1
Mae'r rheoliad hwn yn gymwys pan fo cyfleusterau4 yn cael eu darparu gan awdurdod lleol yng Nghymru mewn cysylltiad â—
a
mabwysiadu plentyn y daethpwyd ag ef i mewn i'r Deyrnas Unedig at y diben o'i fabwysiadu, neu
2
Yn ddarostyngedig i baragraff (5), caiff awdurdod lleol godi ffi ar bersonau y cyfeirir atynt ym mharagraff (3) am ddarparu'r cyfleusterau y cyfeirir atynt ym mharagraff (4).
3
Y personau y ceir codi ffi arnynt yw—
a
darpar fabwysiadydd; neu
b
mabwysiadydd.
4
Y cyfleusterau y cyfeirir atynt ym mharagraff (2) yw—
a
cyfleusterau a ddarperir yn unol â Rhan 4 o Reoliadau'r Asiantaethau i unrhyw berson sy'n dod o fewn rheoliad 3(3) mewn cysylltiad â mabwysiadu plentyn sydd i'w ddwyn i'r Deyrnas Unedig ar gyfer mabwysiad, mabwysiad tramor neu unrhyw fabwysiad a gyflawnir o dan gyfraith gwlad neu diriogaeth y tu allan i Ynysoedd Prydain ac eithrio:
i
darparu cwnsela nad yw'n cael ei ddilyn gan gais ysgrifenedig, a gafwyd gan awdurdod lleol, am asesiad o addasrwydd i fabwysiadu plentyn sy'n arfer preswylio y tu allan i Ynysoedd Prydain; a
ii
darparu gwybodaeth cyn i awdurdod lleol gael cais am asesiad o addasrwydd i fabwysiadu plentyn sy'n arfer preswylio y tu allan i Ynysoedd Prydain.
b
cyfleusterau sy'n cael eu darparu wrth gyflawni unrhyw swyddogaeth a osodir ar awdurdod lleol gan y Rheoliadau Elfen Dramor neu'n unol â hwy neu gan y Ddeddf fel y cafodd ei hamrywio neu ei chymhwyso gan y Rheoliadau Elfen Dramor ac eithrio:
i
cyfleusterau a ddarperir yn unol â rheoliad 5 o'r Rheoliadau Elfen Dramor; a
ii
darparu cwnsela nad yw'n cael ei ddilyn gan gais ysgrifenedig, a gafwyd gan awdurdod lleol, am asesiad o addasrwydd i fabwysiadu plentyn, yn unol â rheoliad 14(1) o'r Rheoliadau Elfen Dramor; a
iii
darparu gwybodaeth cyn i awdurod lleol gael cais ysgrifenedig am asesiad o addasrwydd i fabwysiadu plentyn, yn unol â rheoliad 14(1) o'r Rheoliadau Elfen Dramor;
iv
darparu gwybodaeth i'r darpar fabwysiadydd, cyfarfod â'r darpar fabwysiadydd neu ddarparu cwnsela i'r darpar fabwysiadydd yn unol â rheoliad 19(2) o'r Rheoliadau Elfen Dramor; a
v
cyflwyno adroddiad yn unol â rheoliad 29(2) o'r Rheoliadau Elfen Dramor.
c
adroddiad a gyflwynir i awdurdod tramor perthnasol pan na fo'r adroddiad yn ofyniad gwneud mabwysiad Confensiwn neu fabwysiad tramor o dan gyfraith gwlad dramor lle mae'r plentyn yn arfer preswylio.
5
Rhaid i'r ffi—
a
fod yn rhesymol a pheidio â bod yn fwy na'r costau a'r treuliau a dynnwyd yn briodol gan yr awdurdod lleol wrth ddarparu'r cyfleusterau; a
b
beidio â chynnwys unrhyw elfen ar gyfer costau a threuliau a dynnwyd gan yr awdurdod lleol mewn cysylltiad â:
i
cwynion a wnaed ynglŷn ag unrhyw agwedd ar Wasanaeth Mabwysiadu'r awdurdod lleol;
ii
sylwadau a gyflwynir i'r awdurdod lleol yn unol â rheoliad 28 o Reoliadau'r Asiantaethau; neu
iii
adolygiad o ddyfarniad o gymhwyster o fewn ystyr adran 12 o'r Ddeddf.
6
Rhaid i'r awdurdod lleol, ar gais rhesymol y person y codir arno, ddarparu manylion am y dull a ddefnyddiwyd i gyfrifo'r ffi.
Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19987
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)