Darpariaethau sy'n dod i rym ar 30 Rhagfyr 20052
30 Rhagfyr 2005 yw'r diwrnod penodedig ar gyfer dwyn i rym y darpariaethau canlynol o Ddeddf Mabwysiadu a Phlant 2002—
a
adran 4 i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym;
b
adrannau 6 i 8;
c
adran 12 i'r graddau nad yw eisoes mewn grym;
ch
adrannau 13 i 15;
d
adrannau 56 i 58 i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym;
dd
adrannau 60 i 62 i'r graddau nad ydynt eisoes mewn grym;
e
paragraffau 13, 65 ac 111 i 113 o Atodlen 3 ac adran 139(1) i'r graddau y mae'n ymwneud â'r paragraffau hynny (mân ddiwygiadau a diwygiadau canlyniadol).