Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Gorchymyn)

Cafodd Deddf y Gwasanaethau Tân ac Achub 2004 y Cydsyniad Brenhinol ar 22 Gorffennaf 2004 a chychwynnwyd y rhan fwyaf o'i darpariaethau yng Nghymru ar 10 Tachwedd 2004. Mae'r Gorchymyn hwn yn gwneud diwygiadau canlyniadol yn bennaf i is-ddeddfwriaeth o ran Cymru — yn benodol drwy ddiweddaru cyfeiriadau at “awdurdodau tân”, “brigadau tân” a “Deddf y Gwasanaethau Tân 1947”.

Lluniwyd arfarniad rheoliadol ar gyfer yr offeryn hwn. Gellir cael gafael ar gopïau o'r Adran Cyfiawnder Cymdeithasol ac Adfywio, Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.