- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.
24. Mae Atodlen 5 yn nodi'r amgylchiadau pan fo person yn gymwys neu'n anghymwys i ddal swydd neu i barhau mewn swydd fel llywodraethwr.
25.—(1) Yn ddarostyngedig i baragraffau (2) i (7) bydd llywodraethwr yn dal swydd am gyfnod penodol o bedair blynedd o ddyddiad ei ethol neu ei benodi.
(2) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw lywodraethwr sy'n bennaeth yr ysgol, nac i unrhyw lywodraethwr sefydledig ex officio, a gaiff ddal swydd cyhyd ag y mae'n dal y swydd y mae ei swydd fel llywodraethwr yn deillio ohoni.
(3) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw lywodraethwr sefydledig y pennir cyfnod ei swydd gan y person a'i penododd, hyd at uchafswm o 4 blynedd.
(4) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw lywodraethwr ychwanegol, llywodraethwr sefydledig ychwanegol nac aelod gweithredol interim a benodir o dan adrannau 16(1), 16A(2), 18(3) neu 18A(4) o Ddeddf 1998 y pennir cyfnod ei swydd gan y person a'i penododd, hyd at uchafswm o 4 blynedd.
(5) Nid yw paragraff (1) yn gymwys i unrhyw riant-lywodraethwr ysgol feithrin a gynhelir a fydd yn dal swydd am gyfnod penodol o ddwy flynedd o ddyddiad ei ethol neu ei benodi.
(6) Caiff dirprwy lywodraethwr ddal swydd hyd y cynharaf o'r canlynol—
(a)diwedd pedair blynedd o'r dyddiad y daw ei benodiad i rym;
(b)y dyddiad y bydd y llywodraethwr gwreiddiol (ond yw wedi ei ddiswyddo o dan reoliad 27 (2)) yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu yn nodi y gall weithredu fel llywodraethwr sefydledig a'i fod yn fodlon gwneud hynny; neu
(c)y dyddiad y bydd person ar wahân i'r llywodraethwr gwreiddiol yn cymryd y swydd y mae swydd y llywodraethwr sefydledig ex officio yn bodoli o'i herwydd.
(7) Nid yw'r rheoliad hwn yn rhwystro llywodraethwr rhag—
(a)cael ei ethol neu ei benodi am gyfnod pellach, ac eithrio fel y darperir fel arall yn y Rheoliadau hyn;
(b)ymddiswyddo yn unol â rheoliad 26(1);
(c)cael ei ddiswyddo o dan reoliadau 27 i 29; neu
(ch)cael ei anghymhwyso, yn rhinwedd unrhyw ddarpariaeth yn y Rheoliadau hyn, rhag dal neu barhau i ddal swydd.
(8) Yn y rheoliad hwn ystyr “y llywodraethwr gwreiddiol” (“the original governor”) yw'r llywodraethwr sefydledig ex officio y penodir y dirprwy lywodraethwr i weithredu yn ei le.
26.—(1) Caiff llywodraethwr ymddiswyddo ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu.
(2) Caiff y pennaeth dynnu ei ymddiswyddiad yn ôl ar unrhyw adeg drwy roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu.
(3) Caiff llywodraethwr sefydledig ex officio ymddiswyddo fel llywodraethwr naill ai'n barhaol neu dros dro, ond ni fydd ei ymddiswyddiad yn niweidio swydd llywodraethwr ex officio ei olynydd yn y swydd y mae ei swydd fel llywodraethwr ex officio yn deillio ohoni.
27.—(1) Caiff y person a'i penododd ddiswyddo unrhyw lywodraethwr AALl, llywodraethwr sefydledig neu lywodraethwr cynrychioliadol, a rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig o hynny i glerc y corff llywodraethu ac i'r llywodraethwr a ddiswyddir.
(2) Caiff y person a enwir yn yr offeryn llywodraethu fel y person sydd â'r hawl i'w ddiswyddo, ddiswyddo unrhyw lywodraethwr sefydledig ex officio, a rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig o hynny i glerc y corff llywodraethu ac i'r llywodraethwr a ddiswyddir.
(3) Caiff y person a'i henwebodd ddiswyddo unrhyw lywodraethwr cymunedol ychwanegol neu noddwr-lywodraethwr, a rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig i glerc y corff llywodraethu ac i'r llywodraethwr a ddiswyddir.
28. Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo unrhyw lywodraethwr cymunedol (ac eithrio llywodraethwr cymunedol ychwanegol) yn unol â'r weithdrefn a nodir yn rheoliad 30.
29. Caiff y corff llywodraethu ddiswyddo unrhyw riant-lywodraethwr a benodwyd gan y corff llywodraethu o dan baragraffau 10 i 12 o Atodlen 1 neu unrhyw lywodraethwr partneriaeth yn unol â'r weithdrefn a nodir yn rheoliad 30.
30.—(1) Mae'r rheoliad hwn yn gymwys mewn perthynas â diswyddo llywodraethwr yn unol â rheoliad 28 neu 29.
(2) Ni fydd penderfyniad a gaiff ei basio mewn cyfarfod o'r corff llywodraethu i ddiswyddo llywodraethwr yn effeithiol oni bai—
(a)fod y llywodraethwr neu'r llywodraethwyr sy'n cynnig ei ddiswyddo, cyn i'r corff llywodraethu benderfynu diswyddo'r llywodraethwr, yn nodi yn y cyfarfod hwnnw eu rhesymau dros wneud hynny ac y rhoddir cyfle i'r llywodraethwr y cynigir ei ddiswyddo wneud datganiad i ymateb; ac
(b)y pennir mater diswyddo'r llywodraethwr fel eitem benodol o fusnes ar agenda'r cyfarfod.
(3) Ar ôl pasio penderfyniad i ddiswyddo llywodraethwr rhaid i'r corff llywodraethu roi gwybod yn ysgrifenedig i'r person a ddiswyddir y rhesymau dros y diswyddo.
Diwygiwyd gan adran 56 o Ddeddf 2002 ac Atodlen 5 iddi.
Rhoddwyd i mewn yn rhagolygol gan adran 57 o Ddeddf 2002.
Diwygiwyd gan adran 56 o Ddeddf 2002.
Rhoddwyd i mewn yn rhagolygol gan adran 58 o Ddeddf 2002.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: