Aelodaeth o bwyllgorau addysg
9. Er gwaethaf yr amnewidiad o adran 499(9)(b) o Ddeddf 1996 a wnaed gan baragraff 50 o Atodlen 21 i Ddeddf 2002(1), mae rhiant-lywodraethwr a benodwyd neu a etholwyd i gorff llywodraethu a gyfansoddwyd o dan adran 36 o Ddeddf 1998 i'w drin fel rhiant-lywodraethwr hefyd at ddibenion adran 499(6) ac (8) o Ddeddf 1996.
(1)
Daw paragraff 50 o Atodlen 21 i Ddeddf 2002 i rym ar 31 Hydref 2005 yn rhinwedd O.S. 2005/2910 (Cy.207) (C.124).