Search Legislation

Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005

 Help about what version

What Version

 Help about opening options

Opening Options

Statws

This is the original version (as it was originally made). This item of legislation is currently only available in its original format.

Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn cymhwyso addasiadau trosiannol i Ddeddf Addysg 2002 mewn cysylltiad â dwyn i rym ddarpariaethau'r Ddeddf drwy Orchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2004. Maent yn gwneud diwygiadau hefyd i nifer o reoliadau sy'n ganlyniad yn bennaf i'r gofyniad newydd sydd wedi'i osod ar ysgolion meithrin a gynhelir i gael cyrff llywodraethu.

Mae'r cyfeiriadau isod at adrannau ac Atodlenni (heb fanylion pellach) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlenni iddi.

Mae Rheoliad 3 yn diwygio adran 28D(7)(a) o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 fel y byddai'n glir, o'i darllen gyda'r diwygiadau i'r Ddeddf honno a wnaed gan baragraffau 26 a 29 o Atodlen 21, bod y dyletswyddau o ran cynlluniau hygyrchedd wedi'u gosod ar gyrff llywodraethu ysgolion meithrin a gynhelir.

Mae Rheoliad 4 yn diwygio'r diffiniad o “proprietor” yn adran 579 o Ddeddf Addysg 1996 (“Deddf 1996”) fel ei fod yn cynnwys cyfeiriad at gyrff llywodraethu ysgolion meithrin a gynhelir.

Mae Rheoliad 5 yn darparu bod offeryn llywodraethu presennol ysgol i barhau mewn grym hyd nes y bydd offeryn newydd a wnaed o dan reoliadau o dan adran 20 wedi cymryd ei le.

Mae Rheoliad 6 yn darparu bod darpariaethau Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“Deddf 1998”) yn parhau i fod yn gymwys o ran corff llywodraethu dros dro ysgol newydd a gyfansoddwyd o dan adran 44 o Ddeddf 1998 cyn 31 Hydref 2005. Mae'n addasu hefyd adran 44 o Ddeddf 1998 a Rheoliadau Addysg (Ysgolion Newydd) (Cymru) 1999 fel na fydd angen i gorff llywodraethu dros dro o'r fath gael ei ailgyfansoddi fel corff llywodraethu parhaol tan y dyddiad y caiff ei hysbysu ohono gan yr AALl. Mae hyn yn osgoi'r angen i gyrff llywodraethu gael eu cyfansoddi ar gyfer ysgolion newydd o dan Ddeddf 1998, ac wedyn cael eu hailgyfansoddi o dan y trefniadau newydd.

Mae Rheoliad 7 yn darparu na fydd y gofyniad i gorff llywodraethu gael ei gyfansoddi ar gyfer ysgol feithrin a gynhelir yn gymwys tan 31 Mawrth 2006, ond os bydd corff llywodraethu wedi'i gyfansoddi cyn y dyddiad hwnnw, mae i gael holl bwerau a dyletswyddau corff llywodraethu o'r dyddiad y cafodd ei gyfansoddi.

Mae Rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag ariannu ysgolion meithrin a gynhelir. Mae'r darpariaethau yn Neddf 1998 sy'n ymwneud ag ariannu ysgolion a gynhelir i fod yn gymwys i ysgolion meithrin a gynhelir o ran y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2006 yn unig.

Mae Rheoliad 9 yn caniatáu i riant-lywodraethwyr cyrff llywodraethu a gyfansoddwyd o dan Ddeddf 1998, yn ogystal â rhiant-lywodraethwyr cyrff llywodraethu a gyfansoddwyd o dan reoliadau a wnaed o dan adran 19, gael eu trin fel rhiant-lywodraethwyr at ddibenion adran 499 o Ddeddf 1996. Mae adran 499 o Ddeddf 1996 yn galluogi rheoliadau i'w gwneud yn ofynnol i bwyllgor addysg awdurdod lleol gynnwys cynrychiolwyr rhiant-lywodraethwyr.

Mae rheoliadau 10 i 15 yn diwygio rheoliadau amrywiol yn y fath fodd ag i ddarparu iddynt fod yn gymwys i ysgolion meithrin a gynhelir. Y rheoliadau diwygiedig yw: Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-Lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001, Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000, Rheoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2000, Rheoliadau Addysg (Talu am Gyflenwadau Anghenion Addysgol Arbennig) 1999, Rheoliadau Anghenion Addysgol Arbennig (Darparu Gwybodaeth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2002 a Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995.

Mae Rheoliad 16 yn darparu bod Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003 yn gymwys i ysgolion meithrin a gynhelir o ran gwaharddiadau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2006 yn unig.

Mae Rheoliadau 17 a 18 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002 a Rheoliadau Cyllidebau AALl, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003 fel eu bod yn gymwys i ysgolion meithrin a gynhelir.

Mae Rheoliad 19 yn diwygio Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004 fel eu bod yn gymwys i ysgolion meithrin a gynhelir ar gyfer y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar ôl 31 Mawrth 2006 yn unig.

Mae Rheoliad 20 yn diwygio Rheoliadau Fforymau Ysgolion (Cymru) 2003 fel bod modd i gynrychiolwyr ysgol gynradd ar fforwm ysgol gynnwys cynrychiolydd ysgol feithrin a gynhelir. Mae hyn i adlewyrchu'r ffaith bod ysgolion meithrin a gynhelir i gael cyllidebau dirprwyedig.

Mae Rheoliadau 21 a 22 yn gwneud darpariaeth drosiannol o ran arolygiadau ysgolion o ysgolion meithrin a gynhelir. Mae Rheoliad 23 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 1999 o ganlyniad i'r gofyniad i ysgolion meithrin a gynhelir gael cyrff llywodraethu.

Back to top

Options/Help

Print Options

Close

Legislation is available in different versions:

Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.

Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.

Close

Opening Options

Different options to open legislation in order to view more content on screen at once

Close

More Resources

Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as enacted version that was used for the print copy
  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • correction slips
  • links to related legislation and further information resources
Close

More Resources

Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:

  • the original print PDF of the as made version that was used for the print copy
  • correction slips

Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including:

  • lists of changes made by and/or affecting this legislation item
  • confers power and blanket amendment details
  • all formats of all associated documents
  • links to related legislation and further information resources