Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005
Enwi, cychwyn a chymhwyso
1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Deddf Addysg 2002 (Darpariaethau Trosiannol a Diwygiadau Canlyniadol) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 31 Hydref 2005.
(2)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
Dehongli
2.
(1)
Yn y Rheoliadau hyn—
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Addysg 2002.
Addasu adran 28D(7) o Ddeddf Gwahaniaethu ar sail Anabledd 1995
3.
Addasu adran 579(1) o Ddeddf 1996
4.
Offerynnau llywodraethu
5.
Ysgolion newydd
6.
(1)
(2)
Pan fo paragraff (1) yn gymwys—
(a)
mae'r darpariaethau yn Neddf 1998 y cyfeirir atynt yn adran 44 o Ddeddf 1998 ac yn Rheoliadau Addysg (Ysgolion Newydd) (Cymru) 1999 ac sydd wedi'u dirymu gan Ddeddf 2002 i gael effaith fel petaent heb eu dirymu;
(b)
mae adran 44 o Ddeddf 1998 i gael effaith fel petai is-adran (3)(b) wedi'i hepgor ac fel petai'r geiriau “the date notified to the temporary governing body by the local education authority” wedi'u rhoi yn lle “the school opening date” yn is-adran (4); ac
(c)
mae Rheoliadau Addysg (Ysgolion Newydd) (Cymru) 1999 i gael effaith fel petai'r geiriau “the date notified to the temporary governing body by the local education authority” wedi'u rhoi yn lle “the school opening date” yn rheoliad 31(1) ac fel petai rheoliad 31(3) wedi'i hepgor.
Ysgolion meithrin a gynhelir
7.
(1)
(2)
Hyd nes y bydd offeryn llywodraethu mewn grym ar gyfer ysgol feithrin a gynhelir o dan adran 20(1) o Ddeddf 2002, dim ond er mwyn galluogi'r offeryn llywodraethu i gael ei wneud a galluogi'r corff llywodraethu i gael ei gyfansoddi ar gyfer yr ysgol honno y mae'r darpariaethau perthnasol yn cael effaith.
(3)
Gan hynny, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, awdurdodau addysg lleol, cyrff llywodraethu a phenaethiaid i barhau i gael yr un swyddogaethau hynny tan yr amser hwnnw, o ran ysgolion meithrin a gynhelir ag yr oedd ganddynt yn union cyn cychwyn y darpariaethau perthnasol.
(4)
Ysgolion meithrin a gynhelir a chyllidebau dirprwyedig
8.
Aelodaeth o bwyllgorau addysg
9.
Diwygio Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-Lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001
10.
(1)
(2)
“ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, neu ysgol arbennig gymunedol neu ysgol arbennig sefydledig neu ysgol feithrin a gynhelir;”.
Diwygio Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000
11.
(1)
(2)
Yn rheoliad 2(2)(a) a (b), ar ôl y geiriau “ysgol arbennig sefydledig” mewnosoder y geiriau “neu ysgol feithrin a gynhelir”.
(3)
(4)
“(5)
Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i ysgolion meithrin a gynhelir.”
(5)
“(11)
Nid yw'r rheoliad hwn yn gymwys i ysgolion meithrin a gynhelir.”
Diwygio Rheoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2000
12.
(1)
(2)
Yn rheoliad 2(1) mewnosoder ar ôl y geiriau “ysgol arbennig gymunedol” y geiriau “neu ysgol feithrin a gynhelir”.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Talu am Gyflenwadau Anghenion Addysgol Arbennig) 1999
13.
Diwygio Rheoliadau Anghenion Addysgol Arbennig (Darparu Gwybodaeth gan Awdurdodau Addysg Lleol) (Cymru) 2002
14.
(1)
(a)
mae rheoliad 1(4) yn cael ei hepgor;
(b)
ym mharagraff 1 o'r Atodlen mewnosoder ar ôl y geiriau “o gyfran yr ysgolion a gynhelir o'r gyllideb” y geiriau “neu gyfran yr ysgolion meithrin a gynhelir o'r gyllideb”;
(c)
ym mharagraff 3(b) o'r Atodlen mewnosoder ar ôl y geiriau “ysgolion a gynhelir” y geiriau “a'r ysgolion meithrin a gynhelir”.
(2)
Mae rheoliadau 2(a) a 3(1) i (3) o Reoliadau Anghenion Addysgol Arbennig (Darparu Gwybodaeth gan Awdurdodau Addysg Lleol) (Cymru) 2002 yn gymwys, o ran yr wybodaeth y mae'n ofynnol ei chyhoeddi o ganlyniad i'r diwygiadau a wnaed gan baragraff (1), fel petai “30 Ebrill 2006” a “31 Gorffennaf 2006” wedi'u rhoi yn lle “30 Ebrill 2002” a “31 Gorffennaf 2002” yn rheoliad 3(2) a (3).
Diwygio Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995
15.
Eithriadau
16.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002
17.
(1)
(2)
“ystyr “ysgol” (“school”) yw ysgol gymunedol, ysgol sefydledig neu ysgol wirfoddol, ysgol gymunedol arbennig neu ysgol sefydledig arbennig neu ysgol feithrin a gynhelir;”.
Diwygio Rheoliadau Cyllidebau AALl, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003
18.
(1)
(2)
Yn rheoliad 2(3), ar ôl y geiriau “ysgol sefydledig arbennig” mewnosoder y geiriau “neu ysgol feithrin a gynhelir”.
(3)
Ym mharagraff 5(a) o Atodlen 1, mewnosoder ar ôl y geiriau “yr awdurdod” y geiriau “neu ysgol feithrin a gynhelir”.
(4)
Yn Atodlen 2—
(a)
ym mharagraff 1(b), mewnosoder ar ôl y geiriau “ysgol a gynhelir” y geiriau “neu ysgol feithrin a gynhelir”;
(b)
ym mharagraff 2(b), mewnosoder ar ôl y geiriau “yr awdurdod” y geiriau “neu ysgol feithrin a gynhelir”;
(c)
ym mharagraff 3 mewnosoder o flaen y geiriau “ysgol gynradd” y geiriau “ysgol feithrin a gynhelir neu'r”;
(ch)
yn is-baragraffau (a), (b) ac (c) o baragraff 6, ac ym mhob un ohonynt, mewnosoder o flaen y geiriau “ysgolion cynradd” y geiriau “ysgolion meithrin a gynhelir,”.
Diwygio Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004
19.
(1)
(2)
Yn rheoliad 1(2) mewnosoder ar ôl y geiriau “ysgolion a gynhelir” y geiriau “, ac eithrio ysgolion meithrin a gynhelir,”.
(3)
“(3)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys at ddiben ariannu ysgolion meithrin a gynhelir ar gyfer unrhyw flwyddyn ariannol sy'n dechrau ar ôl 31 Mawrth 2006.”.
Diwygio Rheoliadau Fforymau Ysgolion (Cymru) 2003
20.
(1)
(2)
Hepgorer o reoliad 4(5) y geiriau “ond heb gynnwys ysgol feithrin”.
Arolygiadau Ysgolion
21.
Er gwaethaf y diwygiadau a wnaed i'r diffiniad o “appropriate body” yn adran 11(4) o Ddeddf Arolygiadau Ysgolion 1996 gan baragraff 60 o Atodlen 21, mae'r cyfeiriadau at “appropriate body” yn adrannau 16(4) a 17 o'r Ddeddf honno o ran arolygiad o ysgol feithrin a gynhelir a ddigwyddodd cyn bod corff llywodraethu wedi'i gyfansoddi ar gyfer yr ysgol honno i gael effaith fel petaent yn gyfeiriadau at yr awdurdod addysg lleol, ac nid yw'r diwygiad a wnaed gan baragraff 64 i adran 18(1)(a) o'r Ddeddf honno i gael effaith o ran arolygiad o'r fath.
22.
(1)
(2)
Diwygio Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 1999
23.
(1)
(2)
Yn rheoliad 3(3)(a) hepgorer y geiriau “(except in the case of a nursery school)”.
Mae'r Rheoliadau hyn yn cymhwyso addasiadau trosiannol i Ddeddf Addysg 2002 mewn cysylltiad â dwyn i rym ddarpariaethau'r Ddeddf drwy Orchymyn Deddf Addysg 2002 (Cychwyn Rhif 7) (Cymru) 2004. Maent yn gwneud diwygiadau hefyd i nifer o reoliadau sy'n ganlyniad yn bennaf i'r gofyniad newydd sydd wedi'i osod ar ysgolion meithrin a gynhelir i gael cyrff llywodraethu.
Mae'r cyfeiriadau isod at adrannau ac Atodlenni (heb fanylion pellach) yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg 2002 ac Atodlenni iddi.
Mae Rheoliad 3 yn diwygio adran 28D(7)(a) o Ddeddf Gwahaniaethu ar Sail Anabledd 1995 fel y byddai'n glir, o'i darllen gyda'r diwygiadau i'r Ddeddf honno a wnaed gan baragraffau 26 a 29 o Atodlen 21, bod y dyletswyddau o ran cynlluniau hygyrchedd wedi'u gosod ar gyrff llywodraethu ysgolion meithrin a gynhelir.
Mae Rheoliad 4 yn diwygio'r diffiniad o “proprietor” yn adran 579 o Ddeddf Addysg 1996 (“Deddf 1996”) fel ei fod yn cynnwys cyfeiriad at gyrff llywodraethu ysgolion meithrin a gynhelir.
Mae Rheoliad 5 yn darparu bod offeryn llywodraethu presennol ysgol i barhau mewn grym hyd nes y bydd offeryn newydd a wnaed o dan reoliadau o dan adran 20 wedi cymryd ei le.
Mae Rheoliad 6 yn darparu bod darpariaethau Deddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998 (“Deddf 1998”) yn parhau i fod yn gymwys o ran corff llywodraethu dros dro ysgol newydd a gyfansoddwyd o dan adran 44 o Ddeddf 1998 cyn 31 Hydref 2005. Mae'n addasu hefyd adran 44 o Ddeddf 1998 a Rheoliadau Addysg (Ysgolion Newydd) (Cymru) 1999 fel na fydd angen i gorff llywodraethu dros dro o'r fath gael ei ailgyfansoddi fel corff llywodraethu parhaol tan y dyddiad y caiff ei hysbysu ohono gan yr AALl. Mae hyn yn osgoi'r angen i gyrff llywodraethu gael eu cyfansoddi ar gyfer ysgolion newydd o dan Ddeddf 1998, ac wedyn cael eu hailgyfansoddi o dan y trefniadau newydd.
Mae Rheoliad 7 yn darparu na fydd y gofyniad i gorff llywodraethu gael ei gyfansoddi ar gyfer ysgol feithrin a gynhelir yn gymwys tan 31 Mawrth 2006, ond os bydd corff llywodraethu wedi'i gyfansoddi cyn y dyddiad hwnnw, mae i gael holl bwerau a dyletswyddau corff llywodraethu o'r dyddiad y cafodd ei gyfansoddi.
Mae Rheoliad 8 yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad ag ariannu ysgolion meithrin a gynhelir. Mae'r darpariaethau yn Neddf 1998 sy'n ymwneud ag ariannu ysgolion a gynhelir i fod yn gymwys i ysgolion meithrin a gynhelir o ran y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2006 yn unig.
Mae Rheoliad 9 yn caniatáu i riant-lywodraethwyr cyrff llywodraethu a gyfansoddwyd o dan Ddeddf 1998, yn ogystal â rhiant-lywodraethwyr cyrff llywodraethu a gyfansoddwyd o dan reoliadau a wnaed o dan adran 19, gael eu trin fel rhiant-lywodraethwyr at ddibenion adran 499 o Ddeddf 1996. Mae adran 499 o Ddeddf 1996 yn galluogi rheoliadau i'w gwneud yn ofynnol i bwyllgor addysg awdurdod lleol gynnwys cynrychiolwyr rhiant-lywodraethwyr.
Mae rheoliadau 10 i 15 yn diwygio rheoliadau amrywiol yn y fath fodd ag i ddarparu iddynt fod yn gymwys i ysgolion meithrin a gynhelir. Y rheoliadau diwygiedig yw: Rheoliadau Cynrychiolwyr Rhiant-Lywodraethwyr a Chynrychiolwyr Eglwysig (Cymru) 2001, Rheoliadau Llywodraethu Ysgolion (Cylch Gwaith) (Cymru) 2000, Rheoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgolion (Cymru) 2000, Rheoliadau Addysg (Talu am Gyflenwadau Anghenion Addysgol Arbennig) 1999, Rheoliadau Anghenion Addysgol Arbennig (Darparu Gwybodaeth gan Awdurdodau Lleol) (Cymru) 2002 a Rheoliadau Addysg (Cofrestru Disgyblion) 1995.
Mae Rheoliad 16 yn darparu bod Rheoliadau Addysg (Gwahardd Disgyblion ac Apelau) (Ysgolion a Gynhelir) (Cymru) 2003 yn gymwys i ysgolion meithrin a gynhelir o ran gwaharddiadau ar neu ar ôl 1 Ebrill 2006 yn unig.
Mae Rheoliadau 17 a 18 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Datganiadau Cyllideb) (Cymru) 2002 a Rheoliadau Cyllidebau AALl, Cyllidebau Ysgolion a Chyllidebau Ysgolion Unigol (Cymru) 2003 fel eu bod yn gymwys i ysgolion meithrin a gynhelir.
Mae Rheoliad 19 yn diwygio Rheoliadau Cyfrannau Cyllideb Ysgolion (Cymru) 2004 fel eu bod yn gymwys i ysgolion meithrin a gynhelir ar gyfer y blynyddoedd ariannol sy'n dechrau ar ôl 31 Mawrth 2006 yn unig.
Mae Rheoliad 20 yn diwygio Rheoliadau Fforymau Ysgolion (Cymru) 2003 fel bod modd i gynrychiolwyr ysgol gynradd ar fforwm ysgol gynnwys cynrychiolydd ysgol feithrin a gynhelir. Mae hyn i adlewyrchu'r ffaith bod ysgolion meithrin a gynhelir i gael cyllidebau dirprwyedig.
Mae Rheoliadau 21 a 22 yn gwneud darpariaeth drosiannol o ran arolygiadau ysgolion o ysgolion meithrin a gynhelir. Mae Rheoliad 23 yn diwygio Rheoliadau Addysg (Arolygu Addysg Feithrin) (Cymru) 1999 o ganlyniad i'r gofyniad i ysgolion meithrin a gynhelir gael cyrff llywodraethu.