2005 Rhif 2839 (Cy.203)

CYNLLUNIO GWLAD A THREF, CYMRU

Rheoliadau Cynllunio Gwlad a Thref (Cynlluniau Datblygu Lleol) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud

Yn dod i rym

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru (“y Cynulliad Cenedlaethol”), drwy arfer y pŵerau a roddwyd iddo gan adrannau 62(4) a (5)(g), 63(3)(a), 63(7), 64(3), 69, 72(7), 76(2) a (3) a 77 o Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 (“y Ddeddf”)1 a pharagraff 5(2) o Atodlen 4A i Ddeddf Cynllunio Gwlad a Thref 19902 a phob pŵer arall sy'n ei alluogi yn y cyswllt hwnnw, drwy hyn yn gwneud y Rheoliadau canlynol: