- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
3.—(1) Mae paragraffau (2) a (3) yn rhagnodi, at ddibenion adran 56 o'r Ddeddf, yr wybodaeth y mae'n rhaid i asiantaeth fabwysiadu ei chadw mewn perthynas â pherson a fabwysiedir ar neu ar ôl 30 Rhagfyr 2005 (ac y cyfeirir ati yn y Ddeddf ac yn y Rheoliadau hyn fel “gwybodaeth adran 56”)(1).
(2) Pan wneir gorchymyn mabwysiadu mewn perthynas â pherson a fabwysiadwyd ar ôl 30 Rhagfyr 2005 rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu—
(a)a leolodd y person i'w fabwysiadu; neu
(b)y trosglwyddwyd y cofnodion achos mewn perthynas â'r person mabwysiedig iddi,
barhau i gadw'r cofnod achos a luniwyd mewn perthynas â'r person mabwysiedig o dan reoliad12 o'r Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu neu o dan Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu 1983(2).
(3) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu hefyd gadw —
(a)unrhyw wybodaeth a roddwyd gan y rhiant geni neu berthynas geni arall am y person mabwysiedig, neu gan berson arwyddocaol arall ym mywyd y person mabwysiedig, gyda'r bwriad y gall y person mabwysiedig, os yw'n dymuno hynny, gael yr wybodaeth honno;
(b)unrhyw wybodaeth a roddwyd gan ofalydd maeth blaenorol y person mabwysiedig, gyda'r bwriad y caiff y person mabwysiedig, os yw'n dymuno hynny, gael yr wybodaeth honno;
(c)unrhyw wybodaeth a roddwyd gan y mabwysiadwyr neu bersonau eraill sy'n berthnasol i faterion sy'n codi ar ôl i'r gorchymyn mabwysiadu gael ei wneud;
(ch)unrhyw wybodaeth y gofynnodd y person a fabwysiadwyd iddi gael ei chadw;
(d)unrhyw wybodaeth a roddwyd i asiantaeth mewn perthynas â pherson mabwysiedig gan y Cofrestrydd Cyffredinol o dan adran 79(5) o'r Ddeddf (gwybodaeth a fyddai'n galluogi person mabwysiedig i gael copi ardystiedig o gofnod ei eni);
(dd)unrhyw wybodaeth a ddatgelwyd i'r asiantaeth fabwysiadu ynghylch cofnod sy'n ymwneud â'r person mabwysiedig yn y Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu;
(e)unrhyw wybodaeth y mae angen ei chofnodi yn unol â rheoliad 9, 10, 13 neu 16;
(f)cofnod o unrhyw gytundeb o dan reoliad 10.
(4) At ddibenion y rheoliad hwn mae “gwybodaeth” yn cynnwys gwybodaeth ar unrhyw ffurf, gan gynnwys ar bapur neu gofnodion electronig a ffotograffau.
(5) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gadw cofnod o unrhyw wrthrychau a chofroddion nas cedwir am nad yw'n rhesymol ymarferol i'w storio.
Cychwynnir adrannau 56 i 64 ond yn unig mewn perthynas â mabwysiadau ar neu ar ôl 1 Medi 2005.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: