- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
7.—(1) Caiff asiantaeth fabwysiadu ddatgelu gwybodaeth adran 56 nad yw'n wybodaeth a ddiogelir(1) fel y gwêl orau at ddibenion cyflawni ei swyddogaethau fel asiantaeth fabwysiadu.
(2) Caiff asiantaeth fabwysiadu ddatgelu gwybodaeth adran 56 (gan gynnwys gwybodaeth a ddiogelir) i asiantaeth cefnogi mabwysiadu gofrestredig sy'n darparu gwasanaethau i'r asiantaeth fabwysiadu mewn cysylltiad ag unrhyw rai o'i swyddogaethau o dan adran 61 neu 62 o'r Ddeddf.
(3) Caiff asiantaeth fabwysiadu ddatgelu gwybodaeth adran 56 (gan gynnwys gwybodaeth a ddiogelir) i berson a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru i gael gwybodaeth at ddibenion ymchwil.
8. Rhaid i asiantaeth fabwysiadu ddatgelu gwybodaeth adran 56 (gan gynnwys gwybodaeth a ddiogelir) yn ôl y gofyn—
(a)i'r rheini sy'n cynnal ymchwiliad o dan adran 17 o'r Ddeddf neu adran 81 o Ddeddf Plant 1989(2) neu adran i o Ddeddf Ymchwiliadau 2005(3) at ddibenion ymchwiliad o'r fath;
(b)yn ddarostyngedig i ddarpariaethau 74(5) o Ddeddf Safonau Gofal 2000 i Gomisiynydd Plant Cymru(4) at ddibenion unrhyw archwiliad a gynhelir yn unol â Rhan V o'r Ddeddf honno;
(c)i Gynulliad Cenedlaethol Cymru;
(ch)yn ddarostyngedig i ddarpariaethau adrannau 29(7) a 32(3) o Ddeddf Llywodraeth Leol 1974(5) (ymchwiliadau a datgelu), i'r Comisiwn dros Weinyddu Lleol yng Nghymru at ddibenion ymchwiliad a gynhelir yn unol â Rhan III o'r Ddeddf honno;
(d)i unrhyw berson a benodwyd gan yr asiantaeth fabwysiadu at ddibenion ystyriaeth gan yr asiantaeth o unrhyw sylwadau (gan gynnwys cwynion);
(dd)i banel a ffurfiwyd o dan adran 12 o'r Ddeddf i ystyried penderfyniad cymhwysol mewn perthynas â datgelu gwybodaeth adran 56;
(e)i swyddog achosion teuluol ar gyfer Cymru neu swyddog o CAFCASS at ddibenion cyflawni dyletswyddau'r swyddog o dan y Ddeddf;
(f)i lys sydd â'r pŵer i wneud gorchymyn o dan y Ddeddf neu o dan Ddeddf Plant 1989.
9. Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu wneud cofnod ysgrifenedig o unrhyw ddatgeliad a wnaed o dan reoliad 7 neu 8, a rhaid iddo gynnwys —
(a)disgrifiad o'r wybodaeth a ddatgelir;
(b)y dyddiad y datgelir yr wybodaeth;
(c)y person y datgelir yr wybodaeth iddo;
(ch)y rheswm dros y datgeliad.
10.—(1) Cytundeb rhagnodedig at ddibenion adran 57(5) o'r Ddeddf —
(a)yw cytundeb a wneir rhwng yr asiantaeth fabwysiadu a pherson 18 oed neu drosodd ar yr adeg y gwneir y cytundeb o ran datgelu gwybodaeth a ddiogelir amdano; neu
(b)yw cytundeb a wneir rhwng yr asiantaeth fabwysiadu a phob un o'r personau canlynol o ran datgelu gwybodaeth a ddiogelir amdanynt neu am y person mabwysiedig—
(i)rhiant mabwysiol y person mabwysiedig neu yn achos mabwysiadu gan gwpl, dau riant mabwysiol y person mabwysiedig;
(ii)pob person a oedd, cyn i'r gorchymyn mabwysiadu gael ei wneund, yn rhiant a chyfrifoldeb rhiant am y person mabwysiedig.
(2) Rhaid i'r asiantaeth fabwysiadu gadw cofnod ysgrifenedig o unrhyw gytundeb o'r fath a rhaid i'r cofnod hwnnw gynnwys —
(a)enwau llawn a llofnodion y personau sydd yn bartïon;
(b)y dyddiad pan gaiff ei wneud;
(c)y rhesymau dros ei wneud;
(ch)yr wybodaeth y ceir ei datgelu yn unol â'r cytundeb;
(d)unrhyw gyfyngiadau y cytunir arnynt ynghylch yr amgylchiadau pan geir datgelu gwybodaeth.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: