xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Grantiau Adnewyddu Tai 1996 (“Rheoliadau 1996”) sy'n nodi'r prawf moddion ar gyfer penderfynu swm y grant y caiff awdurdodau tai lleol ei dalu o dan Bennod 1 o Ran 1 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996.
Mae rheoliad 5 o Reoliadau 1996 yn diffinio person perthnasol. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r diffiniad o berson perthnasol fel na wneir prawf moddion ar y rhai sy'n gyfrifol am blentyn neu berson ifanc anabl. Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys i geisiadau a wneir ar 30 Medi 2005 neu wedi hynny i Awdurdodau Tai Lleol yng Nghymru.