xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Offerynnau Statudol Cymru

2005 Rhif 2291 (Cy.170)

PRIFFYRDD, CYMRU

Gorchymyn Cefnffordd Caerdydd i Lan Conwy (A470) (Gwelliant Blaenau Ffestiniog i Gancoed) 2005

Wedi'i wneud

16 Awst 2005

Yn dod i rym

1 Medi 2005

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gwneud y Gorchymyn hwn drwy arfer y pwerau a roddwyd iddo gan adran 10 o Ddeddf Priffyrdd 1980(1) a phob pŵer galluogi arall(2):—

1.  Daw'r briffordd newydd y mae'r Cynulliad Cenedlaethol yn bwriadu ei adeiladu ar hyd y llwybr a ddisgrifir yn Atodlen 1 i'r Gorchymyn hwn yn gefnffordd o'r dyddiad y daw'r gorchymyn hwn i rym.

2.  Dangosir llinell ganol y gefnffordd newydd â llinell ddu drom ar y plan a adneuwyd.

3.  Bydd y darn o'r gefnffordd a ddisgrifir yn Atodlen 2 i'r Gorchymyn hwn ac a ddangosir â llinellau rhesog bras ar y plan a adneuwyd yn peidio â bod yn gefnffordd a chaiff ei dosbarthu fel ffordd annosbarthedig o'r dyddiad y bydd Llywodraeth Cynulliad Cymru'n hysbysu Cyngor Gwynedd fod y gefnffordd newydd ar agor i draffig drwodd.

4.  Yn y Gorchymyn hwn:—

(a)mae pob mesur o bellter wedi'i fesur ar hyd llwybr y briffordd berthnasol;

(b)ystyr “y gefnffordd” (“the trunk road) yw Cefnffordd Caerdydd i Lan Conwy (A470).

5.  Daw'r Gorchymyn hwn i rym ar 1 Medi 2005 a'i enw yw Gorchymyn Cefnffordd Caerdydd i Lan Conwy (A470) (Gwelliant Blaenau Ffestiniog i Gancoed) 2005.

Llofnodwyd ar ran y Gweinidog dros Ddatblygu Economaidd a Thrafnidiaeth.

S. C. Shouler

Cyfarwyddwr, Polisi Trafnidiaeth a Gweinyddu

Llywodraeth Cynulliad Cymru

Dyddiedig 16 Awst 2005

ATODLEN 1LLWYBR Y GEFNFFORDD NEWYDD

Llwybr sydd wedi'i leoli rhwng Blaenau Ffestiniog yn Sir Gwynedd a Chancoed ym Mwrdeistref Sirol Conwy, tua 0.212 km o hyd, gan ddechrau o bwynt ar y gefnffordd bresennol 38 metr i'r dwyrain o'r eiddo a adweinir fel Tŷ Mawr (a Tal y Waenydd House) ac yna yn mynd tua'r gogledd hyd at bwynt rhyw 38 metr i'r gogledd o'r eiddo a adweinir fel Rhif 18 Rhesdai Oakeley.

ATODLEN 2DARN O GEFNFFORDD SY'N PEIDIO Å BOD YN GEFNFFORDD

Y darn hwnnw o'r gefnffordd sy'n dechrau o bwynt ar y gefnffordd bresennol 19 metr i'r de-ddwyrain o gornel dde-ddwyreiniol yr eiddo a adweinir fel Rhif 1 Rhesdai Oakeley ac yna'n mynd tua'r gogledd-ddwyrain am tua 0.14 kilometr hyd at bwynt ar y gefnffordd bresennol tua 19 metr i'r gogledd o gornel ogledd-ddwyreiniol yr eiddo a adweinir fel Rhif 18 Rhesdai Oakeley.

(2)

Yn rhinwedd O.S. 1999/672, erthygl 2 ac Atodlen 1, rhoddwyd y pwerau hyn i Gynulliad Cenedlaethol Cymru mewn perthynas â Chymru.