Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005
Enwi, cymhwyso a dehongli
1.
Enw'r Gorchymyn hwn yw Gorchymyn Deddf Addysg Uwch 2004 (Cychwyn Rhif 2 a Darpariaeth Drosiannol) (Cymru) 2005.
2.
Mae'r darpariaethau sy'n cael eu dwyn i rym gan y Gorchymyn hwn yn cael eu dwyn i rym o ran Cymru.
3.
Yn y Gorchymyn hwn, oni nodir fel arall, mae cyfeiriadau at adrannau ac Atodlenni yn gyfeiriadau at adrannau o Ddeddf Addysg Uwch 2004 a'r Atodlenni iddi.
Darpariaethau sy'n dod i rym
4.
Daw'r darpariaethau canlynol i rym ar 7 Gorffennaf 2005 —
(a)
adran 10(2);
(b)
adran 44 (1), (2), (5) a (6);
(c)
adran 49 i'r graddau mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 6 isod;
(ch)
adran 50 i'r graddau mae'n ymwneud â darpariaethau Atodlen 7 isod;
(d)
yn Atodlen 6, paragraff 7, dileu adran 26(5) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998; ac
(e)
yn Atodlen 7, diddymu adran 26(5) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998.
5.
Daw'r darpariaethau canlynol i rym ar 1 Medi 2006—
(a)
adran 44(3); a
(b)
adran 44(4).
Darpariaeth drosiannol ac arbed
6.
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym yng Nghymru ar 30 Mehefin 2005 y darpariaethau a ganlyn yn Neddf Addysg Uwch 2004:
Adran 10(2) sy'n rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol y pŵer i ariannu'n uniongyrchol ymchwil yn y celfyddydau a'r dyniaethau ac mewn gweithgareddau cysylltiedig.
Adran 44(1) sy'n trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol bŵer yr Ysgrifennydd Gwladol i wneud rheoliadau sy'n pennu'r trefniadau ar gyfer rhoi cymorth ariannol i fyfyrwyr.
Adran 44(2) sy'n rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol (yn gydredol â'r Ysgrifennydd Gwladol) y pŵer, mewn perthynas â Chymru, i wneud darpariaethau penodol yn y rheoliadau sy'n pennu'r trefniadau ar gyfer rhoi cymorth ariannol i fyfyrwyr.
Adran 44(5) sy'n rhoi i'r Cynulliad Cenedlaethol (yn gydredol â'r Ysgrifennydd Gwladol), a hynny cyn trosglwyddo swyddogaethau cymorth i fyfyrwyr, y pŵer i wneud taliadau i gorff neu berson, megis y Cwmni Benthyciadau i Fyfyrwyr, y bydd un o swyddogaethau'r Cynulliad Cenedlaethol yn arferadwy ganddo ar ôl trosglwyddo pwerau cymorth i fyfyrwyr i'r Cynulliad Cenedlaethol.
Adran 44(6) sy'n sicrhau bod darpariaethau penodol Deddf Llywodraeth Cymru 1998 yn gymwys i'r swyddogaethau a drosglwyddir, er enghraifft, nad yw gweithdrefnau seneddol yn gymwys i'r gwaith o wneud deddfwriaeth y Cynulliad Cenedlaethol.
Adran 49 ac Atodlen 6 sy'n cynnwys diwygiadau canlyniadol.
Adran 50 ac Atodlen 7 sy'n cynnwys diddymiadau.
Mae'r Gorchymyn hwn yn dwyn i rym yng Nghymru ar 1 Medi 2006 y darpariaethau a ganlyn yn Neddf Addysg Uwch 2004:
Adran 44(3) sy'n sicrhau bod rheoliadau, a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol ac sy'n darparu ar gyfer ad-dalu drwy gyfrwng trethi fenthyciadau a roddwyd i fyfyrwyr (rheoliadau a wnaed o dan adran 22(5) o Ddeddf Addysgu ac Addysg Uwch 1998), yn gymwys i Gymru dim ond os yw'r Cynulliad Cenedlaethol yn penderfynu gweithredu system ad-dalu drwy gyfrwng trethi o gasglu'r arian ac yn hysbysu'r Ysgrifennydd Gwladol o'r penderfyniad hwnnw.
Adran 44 (4) sy'n trosglwyddo i'r Cynulliad Cenedlaethol y pŵer i drosglwyddo neu ddirprwyo unrhyw un o'r swyddogaethau sydd ganddo yn rhinwedd y rheoliadau sy'n pennu'r trefniadau ar gyfer rhoi cymorth ariannol i fyfyrwyr.
Y Ddarpariaeth | Y Dyddiad Cychwyn | Rhif O.S. |
|---|---|---|
Adran 1 | 16 Rhagfyr 2004 | |
Adran 2 | 1 Ebrill 2005 | |
Adrannau 3 i 6 | 16 Rhagfyr 2004 | |
Adrannau 8 a 9 | 16 Rhagfyr 2004 | |
Adrannau 11 i 18 | 1 Rhagfyr 2004 | |
Adran 19 | 1 Tachwedd 2004 | |
Adran 20 | 1 Ionawr 2005 | |
Adran 21 | 1 Rhagfyr 2004 | |
Adran 46 | 1 Ionawr 2005 | |
Adran 49 | 16 Rhagfyr 2004 1 Ebrill 2005 | |
Adran 50 | 1 Ionawr 2005 1 Ebrill 2005 | |
Atodlen 1 | 1 Rhagfyr 2004 | |
Atodlen 2 | 1 Rhagfyr 2004 | |
Atodlen 3 | 1 Rhagfyr 2004 | |
Atodlen 4 | 1 Rhagfyr 2004 | |
Atodlen 6 | 16 Rhagfyr 2004 1 Ebrill 2005 | |
Atodlen 7 | 1 Ionawr 2005 1 Ebrill 2005 |
Cafodd amryw o ddarpariaethau Deddf Addysg Uwch 2004 eu dwyn i rym o ran Lloegr a Gogledd Iwerddon gan yr offerynnau statudol a ganlyn: O.S. 2004/2781 ac O.S. 2004/3255. Cafodd adran 10(3) o Ddeddf Addysg Uwch 2004 ei dwyn i rym o ran yr Alban gan O.S. 2005/33.