xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"

Rheoliad 6

ATODLEN 1ACHOSION LLE CEIR CYFLOGI PERSON FEL ATHRO NEU ATHRAWES MEWN YSGOL BERTHNASOL HEB FOD WEDI CWBLHAU CYFNOD YMSEFYDLU YN FODDHAOL

1.  Person sydd ar 1 Ebrill 2003 yn athro neu athrawes gymwysedig.

2.  Person sy'n gwasanaethu cyfnod ymsefydlu (gan gynnwys cyfnod ymsefydlu sydd wedi'i ymestyn cyn iddo gael ei gwblhau o dan reoliad 10 neu ar ôl iddo gael ei gwblhau o dan reoliad 14 neu 17).

3.  Person sydd wedi methu â chwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol ac y mae cyfyngiad ar ei gyflogaeth o dan reoliad 16(5) tra arhosir am ganlyniad apêl.

4.  Person sydd wedi'i gyflogi fel athro neu athrawes gyflenwi tymor byr yn ystod cyfnod o bum mlynedd ar ôl y dyddiad y daeth yn athro neu athrawes gymwysedig.

5.  Person sydd wedi'i gyflogi fel athro neu athrawes gyflenwi tymor byr yn rhinwedd rheoliad 18(2).

6.  Person nad yw mwyach yn gallu cael ei gyflogi o dan baragraff 4 ond sy'n cael ei gyflogi fel athro neu athrawes gyflenwi tymor byr wrth wasanaethu cyfnod ymsefydlu mewn gwasanaeth rhan-amser.

7.  Person sy'n athro neu athrawes ysgol o fewn ystyr adran 122(5) o Ddeddf 2002(1).

8.  Person sydd wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol o dan Reoliadau Ymsefydlu Lloegr.

9.  Person sydd wedi cael, neu sy'n gymwys i gael, ei gofrestru'n llawn fel athro neu athrawes addysg gynradd neu uwchradd gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban.

10.  Person —

(a)sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus y cyfnod ymsefydlu ar gyfer addysg athrawon yng Ngogledd Iwerddon, neu

(b)a gyflogwyd fel athro neu athrawes yng Ngogledd Iwerddon ar unrhyw adeg cyn i gyfnod ymsefydlu hyfforddiant athrawon yng Ngogledd Iwerddon gael ei gyflwyno.

11.  Person sydd, mewn perthynas â phroffesiwn athrawon ysgol, yn dod o fewn Erthygl 3 o Gyfarwyddeb y Cyngor 89/48 EEC(2) ar system gyffredinol ar gyfer cydnabod diplomâu addysg uwch a ddyfarnwyd ar ôl cwblhau o leiaf dair blynedd o addysg a hyfforddiant proffesiynol, fel y cafodd ei hymestyn gan Gytundeb Ardal Economaidd Ewrop a lofnodwyd yn Oporto ar 2 Mai 1992(3) fel y cafodd ei addasu gan y Protocol a lofnodwyd ym Mrwsel ar 17 Mawrth 1993(4), ac fel y cafodd ei ddiwygio gan y Cytundeb ar Ryddid i Bobl Symud a wnaed rhwng y Gymuned Ewropeaidd a'i Haelod-wladwriaethau ar un llaw a Chydffederasiwn y Swistir ar y llaw arall a lofnodwyd yn Lwcsembwrg ar 21 Mehefin 1999 ac a ddaeth i rym ar 1 Mehefin 2002(5).

12.  Person sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus gyfnod prawf ar gyfer athrawon o dan drefniadau a gymeradwywyd ac a oruchwyliwyd gan Gyfarwyddwr Addysg Gibraltar.

13.  Person sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus Raglen Ymsefydlu Taleithiau Jersey ar gyfer Athrawon sydd Newydd Gymhwyso.

14.  Person sydd wedi'i gymeradwyo gan Gyngor Addysg Taleithiau Guernsey fel person sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus gyfnod ymsefydlu ar gyfer athrawon.

15.  Person sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus gyfnod ymsefydlu ar gyfer athrawon o dan drefniadau a gymeradwywyd ac a oruchwyliwyd gan Adran Addysg Ynys Manaw.

16.  Person sydd wedi cwblhau'n llwyddiannus Raglen Ymsefydlu Ysgolion Addysg Plant y Lluoedd yn yr Almaen neu yng Nghyprus.

17.  Person a oedd ar neu cyn 1 Ebrill 2003 —

(a)yn cael ei gyflogi fel athro neu athrawes mewn ysgol berthnasol yng Nghymru neu Loegr; a

(b)naill ai —

(i)wedi cwblhau'n llwyddiannus gwrs hyfforddiant cychwynnol ar gyfer athrawon mewn ysgolion mewn sefydliad addysgol yn yr Alban, neu

(ii)wedi'i gofrestru fel athro neu athrawes addysg gynradd neu uwchradd gyda Chyngor Addysgu Cyffredinol yr Alban.

18.  Person a oedd ar neu cyn 1 Ebrill 2003 —

(a)yn cael ei gyflogi fel athro neu athrawes mewn ysgol berthnasol yng Nghymru neu Loegr; a

(b)naill ai —

(i)wedi cwblhau'n llwyddiannus gwrs hyfforddiant cychwynnol ar gyfer athrawon mewn ysgolion mewn sefydliad addysgol yng Ngogledd Iwerddon, neu

(ii)wedi cael cadarnhad ei fod yn cael ei gydnabod fel athro neu athrawes mewn ysgolion yng Ngogledd Iwerddon gan Adran Addysg Gogledd Iwerddon, a'r cadarnhad hwnnw heb gael ei dynnu'n ôl ar unrhyw adeg wedi iddo gael ei ddyfarnu.

19.  Person sy'n athro neu athrawes gymwysedig yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol a pharagraff 12 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny neu yn rhinwedd rheoliad 10 o Reoliadau 1999 a pharagraff 10 o Atodlen 3 i Reoliadau 1999.

20.  Person sy'n athro neu athrawes gymwysedig yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol a pharagraff 13 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny neu yn rhinwedd rheoliad 10 o Reoliadau 1999 a pharagraff 11 o Atodlen 3 i Reoliadau 1999.

21.  Person y ceir ei gyflogi o dan Reoliadau Ymsefydlu Lloegr fel athro neu athrawes mewn ysgol berthnasol yn Lloegr heb fod wedi cwblhau cyfnod ymsefydlu yn foddhaol.

22.  Person sydd —

(a)wedi cwblhau'n llwyddiannus raglen o hyfforddiant proffesiynol ar gyfer athrawon mewn unrhyw wlad y tu allan i'r Deyrnas Unedig ac a gydnabyddir felly gan yr awdurdod cymwys yn y wlad honno;

(b)â dim llai na dwy flynedd o brofiad o addysgu amser-llawn, neu brofiad cyfatebol, yn y Deyrnas Unedig neu mewn man arall;

(c)yn athro neu athrawes gymwysedig yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol a pharagraff 9 neu 10 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny neu yn rhinwedd rheoliad 10 o Reoliadau 1999 a pharagraff 7 o Atodlen 3 i Reoliadau 1999; ac

(ch)wedi'i asesu gan berson a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol fel person sy'n bodloni'r safonau a grybwyllwyd yn rheoliad 13.

23.  Person sydd —

(a)yn athro neu athrawes gymwysedig yn rhinwedd rheoliad 5 o Reoliadau Cymwysterau Athrawon Ysgol a pharagraff 10 o Atodlen 2 i'r Rheoliadau hynny, ac a ddaeth yn athro neu athrawes gymwysedig o'r fath drwy fodloni gofynion cynllun hyfforddi athrawon ar sail cyflogaeth heblaw drwy gwblhau'n llwyddiannus gyfnod o hyfforddiant ar y cynllun; a

(b)wedi'i asesu gan berson a gymeradwywyd gan y Cynulliad Cenedlaethol fel person sy'n bodloni'r safonau a grybwyllwyd yn rheoliad 13.

(1)

Gweler Gorchymyn Addysg (Cymwysterau Rhagnodedig Athrawon Ysgol, etc) 2003, O.S. 2003/1709.

(2)

O.J. Rhif L19, 24.1.89, t.16.

(3)

Cm. 2073.

(4)

Cm. 2183.

(5)

Cm. 4904.