Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) (Diwygio) 2005
Enwi, cychwyn a chymhwyso1.
(1)
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) (Diwygio) 2005 a deuant i rym ar 31 Gorffennaf 2005.
(2)
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â Chymru.
Diwygio Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) 20032.
(1)
(2)
Yn rheoliad 4, ym mharagraff (1)(a) yn lle'r gair “bedwerydd” rhowch y gair “drydydd”, ac yn lle'r gair “bedair” yn y paragraff hwnnw ac ym mharagraff (1)(b) rhowch y gair “dair”.
Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Rheoliadau Addysg (Addysg Feithrin a Chynlluniau Datblygu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant) (Cymru) 2003. O dan adran 118 o Ddeddf Safonau a Fframwaith Ysgolion 1998, mae dyletswydd ar awdurdodau addysg lleol i sichrau bod digon o addysg feithrin ar gael yn eu hardal ar gyfer plant o oedran arbennig. Mae'r Rheoliadau hyn yn newid yr oedran hwnnw drwy gyfeirio at dymhorau ar ôl pen blwydd plentyn yn dair oed yn lle pen blwydd plentyn yn bedair oed.