2005 Rhif 1808 (Cy.139)
CAFFAEL TIR, CYMRU

Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2005

Wedi'u gwneud
Yn dod i rym
Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru, drwy arfer y pwerau a roddwyd i'r Ysgrifennydd Gwladol gan adran 30(5) o Ddeddf Iawndal Tir 19731 (“y Ddeddf”) ac sy'n arferadwy bellach gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru o ran Cymru2, yn gwneud y Rheoliadau a ganlyn:

Enwi, cychwyn a chymhwyso1.

(1)

Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 1 Medi 2005.

(2)

Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.

Symiau diwygiedig y taliad colli cartref2.

Pan fo'r dyddiad dadleoli ar y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym neu ar ei ôl—

(a)

£38,000 yw uchafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o'r Ddeddf;

(b)

£3,800 yw isafswm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(1) o'r Ddeddf; ac

(c)

£3,800 yw swm rhagnodedig y taliad colli cartref at ddibenion adran 30(2) o'r Ddeddf.

Dirymu ac arbed3.

(1)

Yn ddarostyngedig i baragraff (2), dirymir Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 20043.

(2)

Bydd y Rheoliadau a grybwyllwyd ym mharagraff (1) yn parhau i fod yn effeithiol o ran dadleoli sy'n digwydd cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym.

Llofnodwyd ar ran Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 66(1) o Ddeddf Llywodraeth Cymru 19984
D. Elis-Thomas
Llywydd y Cynulliad Cenedlaethol
(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn cynyddu uchafsymiau ac isafsymiau'r taliadau colli cartref sy'n daladwy o dan Ddeddf Iawndal Tir 1973 (“y Ddeddf”) i'r rhai sydd â buddiant perchennog mewn annedd. Maent yn cynyddu hefyd swm y taliad colli cartref sy'n daladwy mewn unrhyw achos arall.

Mae hawl gan berson sydd wedi'i ddadleoli drwy brynu gorfodol neu o dan amgylchiadau eraill a bennir yn adran 29 o'r Ddeddf i gael taliad colli cartref. Cafodd y sail bresennol ar gyfer asesu swm y taliad colli cartref ei sefydlu drwy ddiwygiadau a wnaed i'r Ddeddf yn Neddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 1991.

Pan fo gan berson sy'n meddiannu annedd ar ddyddiad y dadleoli fuddiant perchennog, mae adran 30(1) o'r Ddeddf yn darparu bod swm y taliad colli cartref yn cael ei gyfrifo fel canran o werth y buddiant hwnnw ar y farchnad, a hynny'n ddarostyngedig i uchafswm ac isafswm.

Mae adran 30(2) yn rhagnodi swm y taliad colli cartref mewn unrhyw achos arall.

Mae rheoliad 2(a) o'r Rheoliadau hyn yn cynyddu'r uchafswm sy'n daladwy o dan adran 30(1) o'r Ddeddf o £34,000 i £38,000 ac mae rheoliad 2(b) yn cynyddu'r isafswm o £3,400 i £3,800. Mae rheoliad 2(c) yn cynyddu'r taliad colli cartref sy'n daladwy, o dan adran 30(2) o'r Ddeddf, mewn unrhyw achos arall o £3,400 i £3,800.

Dim ond uchafsymiau ac isafsymiau'r taliadau colli cartref sydd wedi'u newid ac nid oes unrhyw newid yn y ganran sy'n daladwy o werth marchnad buddiant y person sydd wedi'i ddadleoli yn yr annedd.

Mae'r symiau diwygiedig yn gymwys pan fo'r dadleoli'n digwydd ar 1 Medi 2005 neu ar ôl hynny.

Mae'r Rheoliadau hyn yn darparu y bydd Rheoliadau Taliadau Colli Cartref (Symiau Rhagnodedig) (Cymru) 2004 yn parhau i fod yn effeithiol o ran dadleoli sy'n digwydd cyn y dyddiad y daw'r Rheoliadau hyn i rym ond ar wahân i hynny maent wedi'u dirymu.