55.—(1) Rhaid i berson y mae'n ofynnol iddo gadw unrhyw gofnod yn unol ag unrhyw rai o'r darpariaethau blaenorol yn y Rhan hon, ar unrhyw adeg yn ystod y cyfnod y mae'n ofynnol cadw'r cofnod, ddangos y cofnod hwnnw i'r Asiantaeth neu'r gwasanaethau brys pan ofynnir amdano.
(2) Rhaid i gynhyrchydd, deiliad, deiliad blaenorol, traddodwr, cludwr neu draddodai gwastraff peryglus roi i'r Asiantaeth pan ofynnir amdani yr wybodaeth honno y gall yr Asiantaeth fod ei hangen yn rhesymol at ddibenion cyflawni ei swyddogaethau mewn cysylltiad â'r Rheoliadau hyn ac at ddibenion monitro cynhyrchiant, symud, storio, trin, adfer a gwaredu gwastraff peryglus.
(3) Mae gan sefydliad neu ymgymeriad y traddodir gwastraff peryglus iddo i'w adfer neu i'w waredu, yn ôl y digwydd, y ddyletswydd i roi i'r Asiantaeth pan ofynnir amdani dystiolaeth ddogfennol bod y gweithrediad gwaredu neu adfer o dan sylw wedi'i gyflawni, sy'n dangos, pan fo'n gymwys, yr eitem berthnasol a restrir yn Atodiad IIA neu Atodiad IIB, yn ôl y digwydd o'r Gyfarwyddeb Wastraff.
(4) Rhaid i berson y mae'n ofynnol iddo roi gwybodaeth i'r Asiantaeth yn unol â'r rheoliad hwn roi'r wybodaeth honno yn y ffurf y gall yr Asiantaeth yn rhesymol ofyn amdani.
(5) Mae'r pŵer a roddir gan baragraff (4) yn cynnwys pŵeri'w gwneud yn ofynnol i ddangos ar ffurf weladwy a darllenadwy unrhyw wybodaeth a ddelir ar ffurf electronig.
(6) Mae unrhyw gais am wybodaeth o dan y rheoliad hwn i fod yn ysgrifenedig a rhaid iddo bennu o fewn pa gyfnod y mae'r wybodaeth i'w darparu.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 55 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)