xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom" xmlns:atom="http://www.w3.org/2005/Atom"
33.—(1) Dyletswydd yr Asiantaeth o dro i dro yw dynodi safon, ac ar bob adeg gynnal mewn grym ddynodiad ar safon, (y cyfeirir ati yn y Rheoliadau hyn fel “safon codio”), sy'n darparu ar gyfer cyfansoddiad codau traddodi at ddibenion y Rhan hon.
(2) Rhaid i'r safon codio alluogi pob llwyth o wastraff peryglus gael cod traddodi unigryw.
(3) Rhaid i'r safon ddarparu ar gyfer codau gwahanol i nodiadau traddodi a gwblhawyd mewn perthynas â gwastraff peryglus a symudwyd drwy biblinell yn unol â rheoliad 41, pan fo pibellau yn para am fwy na chwarter.
(4) Rhaid i'r safon ddarparu ar gyfer codau traddodi gael eu ffurfio o lythrennau, Rhif au neu symbolau, neu unrhyw gyfuniad o lythrennau, Rhif au a symbolau.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 33 mewn grym ar 16.7.2005, gweler rhl. 1(2)(b)