Gwasanaethau symudolLL+C
29.—(1) Os yw cynhyrchydd gwastraff peryglus yn gweithredu gwasanaeth symudol, y fangre berthnasol mewn perthynas ag unrhyw fangre gysylltiedig yw mangre y mae paragraff (2) yn gymwys iddi (“mangre'r gwasanaeth”) tra gweithredir y gwasanaeth symudol hwnnw o fewn y terfynau cymwys ac yr ufuddheir i'r cyfyngiad deiliadaeth o ran pob mangre gysylltiedig.
(2) Dyma'r mangreoedd y mae'r paragraff hwn yn gymwys iddynt—
(a)y fangre lle gweithredir y gwasanaeth symudol; neu
(b)os gweithredir y gwasanaeth symudol o fwy nag un set o fangreoedd, prif le busnes y cynhyrchydd.
(3) Os yw unrhyw fangre—
(a)yn fangre safle ar wahân i'r gwasanaeth symudol; a hefyd
(b)yn fangre mewn perthynas â'r gwasanaeth symudol,
caniateir gwneud un hysbysiad unigol.
Gwybodaeth Cychwyn
I1Rhl. 29 mewn grym ar 6.7.2005 at ddibenion penodedig, gweler rhl. 1(2)(a)
I2Rhl. 29 mewn grym ar 16.7.2005 mewn grym i'r graddau nad yw eisoes mewn grym, gweler rhl. 1(2)(b)