(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio ymhellach Reoliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Treuliau Teithio a Pheidio â Chodi Tâl) 1988 (“y prif Reoliadau”) sy'n darparu ar gyfer peidio â chodi taliadau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (“GIG”) ac ar gyfer talu treuliau teithio mewn achosion penodol.

Mae gan rai personau hawl awtomatig i beidio â thalu taliadau'r GIG ac i gael taliadau am dreuliau teithio am eu bod yn cael budd-daliadau penodedig y wladwriaeth.

O ran hawl personau eraill nad oes ganddynt hawl awtomatig i beidio â thalu taliadau'r GIG ac i gael taliadau am dreuliau teithio, cyfrifir yr hawl yn unol â'r darpariaethau sydd yn y prif Reoliadau. Mewn achosion o'r fath, cyfrifir incwm, cyfalaf a gofynion yr hawlydd (a rhai teulu'r person hwnnw, lle y bônt yn berthnasol). Gwneir y cyfrifiad hwn trwy gymhwyso darpariaethau wedi'u haddasu Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 a nodir yn Atodlen 1 i'r prif Reoliadau.

Mae rheoliadau 4 a 6 yn diwygio'r prif Reoliadau i gynyddu'r symiau a ddefnyddir fel sail ar gyfer cyfrifo hawl i beidio â thalu taliadau'r GIG a chael taliadau treuliau teithio.

Mae rheoliad 5 yn estyn i 5 mlynedd gyfnod dilysu hysbysiad o hawl i beidio â thalu a chael taliadau treuliau teithio pan ddyroddir yr hysbysiad i berson sengl 65 oed neu drosodd, neu i un o gwpl pan fo un partner yn 60 oed neu drosodd a bod y partner arall yn 65 oed neu drosodd pan nad oes gan yr hawlydd fathau penodol o incwm neu blentyn dibynnol neu bobl ifanc ar eu haelwyd.

Mae'r diwygiadau a wneir yn rheoliad 6 yn darparu bod yr enillion a ddiystyrir ac a nodir yn Atodlen 8 o Reoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987 i'w cymhwyso i berson sengl 60 oed neu drosodd ac i gwpl pan fo un neu ddau o'r partïon yn 60 oed neu drosodd. Yn ychwanegol, caiff y rhieni unigol hynny sy'n 60 oed neu drosodd eu gofynion wedi'u cyfrifo yn unol â'r symiau a ragnodir yn Rheoliadau Credyd Pensiwn y Wladwriaeth 2002 a chaiff y rhieni unigol hynny o dan 60 eu gofynion wedi'u cyfrifo yn unol â'r swm a ragnodwyd ac a bennir yn Rheoliadau Cymhorthdal Incwm (Cyffredinol) 1987.