Nodyn Esboniadol

(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)

Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/47/EC(1) sy'n diwygio Cyfarwyddeb 95/45/EC(2). Maent yn gwneud hynny drwy ddiwygio ymhellach Reoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995(3). Mae'r Rheoliadau yn—

(a)darparu meini prawf purdeb diwygiedig ar gyfer carotenau cymysg E160 a (i) a beta-caroten E160 a (ii) (rheoliad 2(2));

(b)mewnosod darpariaeth amddiffyn drosiannol ar gyfer cynhyrchion a roddwyd ar y farchnad neu a labelwyd cyn 1 Ebrill 2005 sydd fel arall yn cydymffurfio â Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995, er mwyn caniatáu i stociau cyfredol gael eu dihysbyddu (rheoliad 2(3)).

Mae arfarniad rheoliadol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau o'r ddogfen hon oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.

(1)

OJ Rhif L113, 20.4.2004, t.24.

(2)

Cyfarwyddeb y Comisiwn 95/45/EC 26 Gorffennaf 1995 sy'n pennu meini prawf purdeb penodol sy'n ymwneud â lliwiau sydd i'w defnyddio mewn deunyddiau bwyd (OJ Rhif L226, 22.9.1995, t.1).