(Nid yw'r nodyn hwn yn rhan o'r Rheoliadau)
Mae'r Rheoliadau hyn, sy'n gymwys o ran Cymru, yn gweithredu Cyfarwyddeb y Comisiwn 2004/47/EC9 sy'n diwygio Cyfarwyddeb 95/45/EC10. Maent yn gwneud hynny drwy ddiwygio ymhellach Reoliadau Lliwiau mewn Bwyd 199511. Mae'r Rheoliadau yn—
(a)
darparu meini prawf purdeb diwygiedig ar gyfer carotenau cymysg E160 a (i) a beta-caroten E160 a (ii) (rheoliad 2(2));
(b)
mewnosod darpariaeth amddiffyn drosiannol ar gyfer cynhyrchion a roddwyd ar y farchnad neu a labelwyd cyn 1 Ebrill 2005 sydd fel arall yn cydymffurfio â Rheoliadau Lliwiau mewn Bwyd 1995, er mwyn caniatáu i stociau cyfredol gael eu dihysbyddu (rheoliad 2(3)).
Mae arfarniad rheoliadol yn unol ag adran 65 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 wedi'i baratoi ar gyfer y Rheoliadau hyn a'i osod yn Llyfrgell Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Gellir cael copïau o'r ddogfen hon oddi wrth yr Asiantaeth Safonau Bwyd, Llawr 11, Southgate House, Wood Street, Caerdydd CF10 1EW.