ATODLEN 1YR WYBODAETH SYDD I'W CHYNNWYS YN Y DATGANIAD O DDIBEN
1
Nodau ac amcanion yr asiantaeth.
2
Enw a chyfeiriad y darparydd cofrestredig, yr unigolyn cyfrifol a'r rheolwr cofrestredig.
3
Unrhyw amodau sydd mewn grym am y tro o ran cofrestru'r personau cofrestredig o dan Ran 2 o Ddeddf 2000.
4
Cymwysterau a phrofiad perthnasol y rheolwr cofrestredig.
5
Nifer, cymwysterau perthnasol a phrofiad y staff sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth.
6
Strwythur trefniadaethol yr asiantaeth.
7
Disgrifiad o'r gwasanaethau sy'n cael eu cynnig gan yr asiantaeth.
8
Y system sydd wedi'i sefydlu i fonitro a gwerthuso gwaith darparu'r gwasanaethau hynny er mwyn sicrhau bod y gwasanaethau sy'n cael eu darparu gan yr asiantaeth yn effeithiol a bod ansawdd y gwasanaethau hynny o safon briodol.
9
Crynodeb o'r weithdrefn gwynion.
10
Enw, cyfeiriad a Rhif ffôn yr awdurdod cofrestru.
ATODLEN 2YR WYBODAETH Y MAE'N OFYNNOL EI CHAEL AM YR UNIGOLYN CYFRIFOL NEU AM BERSONAU SY'N CEISIO RHEOLI NEU WEITHIO AT DDIBENION ASIANTAETH
1
Prawf o bwy yw'r person gan gynnwys ffotograff diweddar.
2
Naill ai —
a
os bydd tystysgrif yn ofynnol at ddiben sy'n ymwneud ag adran 115(5)(ea) o Ddeddf yr Heddlu 1997 (cofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000)10, neu os yw'r swydd yn dod o fewn adran 115(3) neu (4) o Ddeddf yr Heddlu 199711, tystysgrif cofnod troseddol manwl a ddyroddwyd o dan adran 115 o'r Ddeddf honno y mae llai na 3 blynedd mewn cysylltiad â hi wedi mynd heibio ers iddi gael ei dyroddi; neu
b
mewn unrhyw achos arall, tystysgrif cofnod troseddol a ddyroddwyd o dan adran 113 o'r Ddeddf honno, ac y mae llai na 3 blynedd wedi mynd heibio mewn cysylltiad â hi ers iddi gael ei dyroddi,
gan gynnwys, i'r graddau a ganiatawyd o dan Ddeddf yr Heddlu 1997 y materion a bennwyd yn adrannau 113(3A) neu (3C) neu 115(6A) neu (6B) o'r Ddeddf honno12.
3
Dau dystlythyr ysgrifenedig, gan gynnwys tystlythyr oddi wrth gyflogwr mwyaf diweddar y person, os oes un.
4
Pan fo person wedi gweithio o'r blaen mewn swydd yr oedd ei ddyletswyddau'n cynnwys gweithio gyda phlant neu oedolion hawdd eu niweidio, i'r graddau y bo'n rhesymol ymarferol, cadarnhad o'r rheswm pam y daeth y gyflogaeth neu'r swydd i ben.
5
Tystiolaeth ddogfennol am unrhyw gymhwyster perthnasol.
6
Hanes cyflogaeth llawn, ynghyd ag esboniad ysgrifenedig boddhaol am unrhyw fylchau yn y gyflogaeth.
ATODLEN 3Y COFNODION SYDD I'W CADW YNGHYLCH POB PERSON SY'N GWEITHIO AT DDIBENION YR ASIANTAETH
Cofnod sy'n dangos ar gyfer pob person sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth —
1
Enw llawn.
2
Rhyw.
3
Dyddiad geni.
4
Cyfeiriad cartref.
5
Cymwysterau sy'n berthnasol i weithio gyda phersonau sy'n cael gwasanaethau cymorth mabwysiadu a phrofiad o weithio gyda phersonau o'r fath ac (o ran asiantaeth sy'n darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu i blant) cymwysterau sy'n berthnasol i waith sy'n cynnwys plant, a phrofiad o waith o'r fath.
6
Y dyddiadau pan fydd y person yn dechrau cael ei gyflogi felly a phan fydd ei gyflogaeth yn dod i ben.
7
A yw'r person yn cael ei gyflogi gan y darparydd cofrestredig o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau, neu a yw'n cael ei gyflogi gan rywun heblaw'r darparydd cofrestredig.
8
Disgrifiad swydd y person ac a yw'n gweithio'n amser llawn neu'n rhan amser a nifer yr oriau y mae'n cael ei gyflogi bob wythnos gan y darparydd cofrestredig neu'n cael ei gontractio bob wythnos i weithio i'r darparydd hwnnw.
9
Yr hyfforddiant y mae'r person wedi ymgymryd ag ef, y gwaith o'i oruchwylio a'i werthuso, y camau disgyblu (os o gwbl) a gymerwyd yn ei erbyn, y cwynion (os o gwbl) a wnaed yn ei erbyn neu ynglŷn â'r person a chanlyniad y cwynion hynny ac unrhyw faterion eraill mewn cysylltiad â'i gyflogaeth at ddibenion yr asiantaeth.
ATODLEN 4DIGWYDDIADAU A HYSBYSIADAU
Colofn 1 | Colofn 2 | ||
|---|---|---|---|
Y digwyddiad | I'w hysbysu i: | ||
Yr awdurdod cofrestru | Y Bwrdd Iechyd Lleol /Yr Ymddiriedolaethau Gofal Sylfaenol | Yr awdurdod perthnasol | |
Cyfeirio unigolyn sy'n gweithio i'r asiantaeth at yr Ysgrifenydd Gwladol neu'r Cynulliad yn unol ag adran (1)(a) o Ddeddf Amddiffyn Plant 1999 | Ie | ||
Marwolaeth oedolyn neu blentyn neu anaf difrifol i oedolyn neu blentyn wrth iddo gael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr asiantaeth | Ie | Ie | Ie (pan fo'n marwolaeth plentyn neu'n anaf difrifol i blentyn) |