RHAN 5MATERION AMRYWIOL — ASIANTAETHAU

Hysbysu newidiadau30

1

Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r awdurdod cofrestru yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo'n ymarferol i wneud hynny os bydd unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol yn digwydd neu y bwriedir iddynt ddigwydd —

a

bod person heblaw'r darparydd cofrestredig yn rhedeg yr asiantaeth;

b

bod person yn peidio â rheoli'r asiantaeth;

c

bod enw neu gyfeiriad y darparydd cofrestredig wedi'i newid;

ch

bod unrhyw newid o ran ymddiriedolwr, cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall tebyg i'r darparydd cofrestredig;

d

bod unrhyw newid i fod o ran pwy yw'r unigolyn cyfrifol;

dd

bod derbynnydd, rheolwr, datodwr neu ddatodwr dros dro wedi'i benodi o ran y darparydd cofrestredig; neu

e

bod yr asiantaeth yn bwriadu peidio â gweithredu neu fodoli fel y cyfryw.

2

Rhaid i'r darparydd cofrestredig hysbysu'r awdurdod cofrestru yn ysgrifenedig ac yn ddi-oed o farwolaeth yr unigolyn cyfrifol neu'r rheolwr cofrestredig.