RHAN 1CYFFREDINOL

Y datganiad o ddiben a'r arweiniad plant3

1

Rhaid i'r person cofrestredig lunio mewn cysylltiad â'r asiantaeth ddatganiad ysgrifenedig (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “y datganiad o ddiben”) a rhaid i hwnnw gynnwys datganiad ynglyn â'r materion a restrir yn Atodlen 1.

2

Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi o'r datganiad o ddiben i'r awdurdod cofrestru.

3

Rhaid i'r person cofrestredig drefnu bod copi o'r datganiad o ddiben ar gael ar gais i'w arolygu gan —

a

unrhyw berson sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth;

b

unrhyw berson sy'n cael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr asiantaeth neu sy'n gweithredu ar ran plentyn sy'n cael gwasanaethau o'r fath gan yr asiantaeth;

c

unrhyw berson sy'n holi ar ei ran ei hun neu ar ran plentyn am gael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr asiantaeth;

ch

unrhyw awdurdod lleol.

4

Rhaid i'r person cofrestredig, o ran asiantaeth sy'n darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu i blant, gynhyrchu arweiniad ysgrifenedig i'r asiantaeth (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr arweiniad plant”) a rhaid iddo gynnwys —

a

crynodeb o ddatganiad o ddiben yr asiantaeth;

b

crynodeb o'r weithdrefn gwynion a sefydlwyd o dan reoliad 19(1); ac

c

cyfeiriad a Rhif ffôn yr awdurdod cofrestru.

5

Rhaid i'r arweiniad plant gael ei gynhyrchu ar ffurf sy'n briodol i oedran, dealltwriaeth ac anghenion cyfathrebu'r plant y mae'r asiantaeth yn darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu iddynt.

6

Rhaid i'r person cofrestredig ddarparu copi o'r arweiniad plant i'r awdurdod cofrestru, i unrhyw oedolyn sy'n gweithredu ar ran plentyn y mae'r asiantaeth yn darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu iddo ac (yn dibynnu ar ei oedran a'i ddealltwriaeth) i bob plentyn o'r fath.

7

Yn ddarostyngedig i baragraff (8), rhaid i'r person cofrestredig sicrhau bod yr asiantaeth yn cael ei rheoli bob amser mewn modd sy'n gyson â'i datganiad o ddiben.

8

Ni fydd dim ym mharagraff (7) yn ei gwneud yn ofynnol nac yn awdurdodi'r person cofrestredig i fynd yn groes i, neu i beidio â chydymffurfio ag—

a

unrhyw ddarpariaeth arall yn y Rheoliadau hyn; neu

b

unrhyw amodau sydd mewn grym am y tro o ran cofrestru'r darparydd cofrestredig o dan Ran 2 o Ddeddf 2000.