RHAN 4DULL RHEOLI ASIANTAETHAU

Ffitrwydd y gweithwyr22

1

Rhaid i'r person cofrestredig beidio â gwneud y canlynol —

a

cyflogi person i weithio at ddibenion yr asiantaeth oni bai bod y person hwnnw yn ffit i weithio at ddibenion yr asiantaeth; neu

b

caniatáu i berson sy'n cael ei gyflogi gan berson heblaw'r darparydd cofrestredig weithio at ddibenion yr asiantaeth oni bai bod y person hwnnw yn ffit i weithio at ddibenion yr asiantaeth.

2

At ddibenion paragraff (1), nid yw person yn ffit i weithio at ddibenion asiantaeth oni bai —

a

bod y person yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da;

b

bod gan y person y cymwysterau, y sgiliau, y cymhwysedd a'r profiad sy'n angenrheidiol i'r gwaith y mae i'w gyflawni;

c

bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i wneud y gwaith y mae i'w gyflawni; ac

ch

bod gwybodaeth lawn a boddhaol ynglŷn â'r person ar gael o ran pob un o'r materion a bennir yn Atodlen 2.