RHAN 1CYFFREDINOL

Gwasanaethau Cymorth Mabwysiadu2

1

Ni chaniateir i unrhyw gais am gofrestriad o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 gael ei wneud o ran asiantaeth cymorth mabwysiadu sy'n gorff anghorfforedig.

2

At ddibenion y Rheoliadau hyn ac adran 2(6) o Ddeddf 2002 (diffiniad o “adoption support services”), mae'r gwasanaethau canlynol wedi'u rhagnodi —

a

cymorth i rieni mabwysiadol, plant mabwysiadol, a phersonau perthynol o ran trefniadau ar gyfer cyswllt rhwng plentyn mabwysiadol a rhiant naturiol, neu berson perthynol y plentyn mabwysiadol;

b

gwasanaethau y gellir eu darparu mewn cysylltiad ag anghenion therapiwtig y plentyn o ran y mabwysiadu hwnnw;

c

cymorth er mwyn sicrhau bod y berthynas rhwng y plentyn a'r rhiant mabwysiadol yn parhau, gan gynnwys hyfforddiant i rieni mabwysiadol er mwyn diwallu unrhyw anghenion arbennig sydd gan y plentyn ac sy'n codi o'r mabwysiad hwnnw;

ch

cymorth pan fo tarfu ar drefniant mabwysiadu neu leoliad mabwysiadu wedi digwydd neu mewn perygl o ddigwydd, gan gynnwys:

i

cyfryngu; a

ii

trefnu a rhedeg cyfarfodydd i drafod achosion tarfu ar fabwysiadu neu leoli;

d

cymorth i bersonau a fabwysiadwyd ac sydd wedi cyrraedd 18 oed i gael gwybodaeth ynglyn â'u mabwysiad neu i hwyluso cyswllt rhwng y personau hynny a'u perthnasau;

dd

cymorth i berthnasau personau a fabwysiadwyd ac sydd wedi cyrraedd 18 oed, i gael gwybodaeth ynglyn â'r mabwysiad hwnnw neu i hwyluso cyswllt rhwng y personau hynny a'r person a fabwysiadwyd.

3

At ddibenion Rheoliadau 2(2)(d) neu (dd) ystyr 'perthynas' yw unrhyw berson a fyddai, oni bai am ei fabwysiad, yn perthyn drwy waed, gan gynnwys hanner gwaed neu briodas, i'r person a fabwysiadwyd.