RHAN 4DULL RHEOLI ASIANTAETHAU
Trefniadau ar gyfer amddiffyn plant16
1
Rhaid i'r person cofrestredig, o ran asiantaeth sy'n darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu, baratoi a gweithredu polisi ysgrifenedig sydd —
a
wedi'i fwriadu i amddiffyn plant sy'n cael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr asiantaeth rhag cael eu cam-drin neu eu hesgeuluso; a
b
yn nodi'r weithdrefn sydd i'w dilyn os bydd unrhyw honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod.
2
Rhaid i'r weithdrefn o dan baragraff (1)(b) ddarparu'n benodol ar gyfer —
a
cydgyswllt a chydweithrediad ag unrhyw awdurdod lleol sy'n gwneud, neu a all fod yn gwneud, ymholiadau amddiffyn plant ynglŷn â'r plentyn;
b
cofnodion ysgrifenedig sydd i'w cadw am unrhyw honiad o gamdriniaeth neu esgeulustod a'r camau a gymerwyd mewn ymateb i hynny; ac
c
trefniadau sydd i'w gwneud ar gyfer personau sy'n gweithio at ddibenion yr asiantaeth ac oedolion a phlant y mae'r asiantaeth wedi darparu iddynt wasanaethau cymorth mabwysiadu er mwyn iddynt gael mynediad i wybodaeth a fyddai'n eu galluogi i gysylltu —
i
â'r awdurdod lleol y mae'r asiantaeth wedi'i lleoli yn ei ardal ac unrhyw awdurdod lleol arall y mae'r asiantaeth yn darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu i blentyn ar ei ran, a
ii
â'r awdurdod cofrestru,
ynghylch unrhyw bryder am les neu ddiogelwch unrhyw blentyn.
3
Yn y rheoliad hwn ystyr “ymholiadau amddiffyn plant” yw unrhyw ymholiadau sy'n cael eu gwneud gan awdurdod lleol wrth iddo arfer unrhyw un o'i swyddogaethau a roddwyd iddo gan neu o dan Ddeddf Plant 19897 ynglyn ag amddiffyn plant.