RHAN 3CEISIADAU AM WASANAETHAU CYMORTH MABWYSIADU

Cwnsela15

1

Rhaid i asiantaeth ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig ynglyn ag argaeledd cwnsela i unrhyw berson sydd—

a

yn gwneud cais am wasanaethau cymorth mabwysiadu o dan Reoliadau 2(2)(d) neu (dd); neu

b

yn wrthrych cais o'r fath ac sy'n ystyried a ddylai gydsynio â datgelu gwybodaeth amdano i'r person a ofynnodd am yr wybodaeth honno.

2

Rhaid i'r wybodaeth a ddarperir o dan baragraff (1) gynnwys—

a

disgrifiadau o'r personau sy'n cynnig cwnsela; a

b

y ffioedd y gall y personau hynny eu codi.

3

Os bydd person a grybwyllir ym mharagraff (1) yn gofyn bod cwnsela yn cael ei ddarparu iddo, rhaid i'r asiantaeth cymorth mabwysiadu sicrhau bod gwasnaethau cwnsela yn cael eu darparu i'r person hwnnw.

4

Caiff yr asiantaeth ddarparu gwasanaethau cwnsela o'r fath ei hun neu wneud trefniadau naill ai

a

gyda darparydd cofrestredig arall sy'n darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu, neu

b

gyda pherson sy'n darparu gwasanaethau o'r fath o dan gontract i ddarparydd cofrestredig.

5

Pan fo gwrthrych cais yn dewis peidio â manteisio ar wasanaeth cwnsela y mae ffi yn daladwy amdano, rhaid i'r asiantaeth cymorth mabwysiadu roi cymorth a chefnogaeth, serch hynny, i'r gwrthrych sy'n gwneud penderfyniad.