RHAN 1CYFFREDINOL
Enwi, cychwyn a dehongli1
1
Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.
2
Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
3
Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Safonau Gofal 20003;
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 20024;
mae “gwasanaethau cymorth mabwysiadu” (“adoption support services”) i'w ddehongli yn unol â rheoliad 2(2);
ystyr “plentyn mabwysiadol” (“adoptive child”) yw plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth neu blentyn mabwysiadol heb fod drwy asiantaeth;
ystyr “Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru)” (“the Adoption Agencies (Wales) Regulations”) yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 20055;
ystyr “rhiant mabwysiadol” (“adoptive parent”) yw person:
- a
y mae asiantaeth fabwysiadu wedi penderfynu yn unol â rheoliad 34(1) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) y byddai'n rhiant mabwysiadol addas i blentyn penodol;
- b
y mae asiantaeth fabwysiadu wedi lleoli plentyn gydag ef i'w fabwysiadu;
- c
sydd wedi hysbysu, o dan adran 44 o Ddeddf 2002, o'i fwriad i wneud cais am orchymyn mabwysiadu am blentyn;
- ch
sydd wedi mabwysiadu plentyn; neu
- d
sydd wedi mabwysiadu plentyn sydd wedi cyrraedd 18 oed ar ôl hynny;
ond nid yw'n cynnwys person sy'n llys-riant neu'n rhiant naturiol i'r plentyn, neu a oedd yn llys-riant y plentyn cyn iddo fabwysiadu'r plentyn.
- a
4
Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “asiantaeth” (“agency”) yw asiantaeth cymorth mabwysiadu;
ystyr “awdurdod cofrestru” (“registration authority”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “corff” (“organisation”) yw corff corfforaethol;
ystyr “darparydd cofrestredig” (“registered provider”), o ran asiantaeth, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 fel y person sy'n rhedeg yr asiantaeth;
ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw'r datganiad ysgrifenedig a luniwyd yn unol â rheoliad 3(1);
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod heblaw dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n wyl banc o fewn ystyr “bank holiday” yn Neddf Bancio a Thrafodion Ariannol 19716;
ystyr “gwrthrych” (“subject”), o ran darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu o dan reoliadau 2(2)(d) neu (dd) yw person y mae'r person sy'n gofyn am y gwasanaeth yn ceisio cysylltu ag ef neu'n ceisio gwybodaeth amdano;
ystyr “person cofrestredig” (“registered person”), o ran asiantaeth, yw unrhyw berson sy'n ddarparydd cofrestredig neu'n rheolwr cofrestredig yr asiantaeth honno;
ystyr “person perthynol” (“related person”) yw—
- a
perthynas o fewn ystyr “relative” yn adran 144(1) o Ddeddf 2002; neu
- b
unrhyw berson y mae gan y plentyn mabwysiadol berthynas ag ef a honno'n berthynas sydd ym marn yr awdurdod lleol yn fanteisiol i les y plentyn o ystyried y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (i) i (iii) o adran 1(4)(f) o Ddeddf 2002;
- a
ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw wedi cyrraedd 18 oed;
ystyr “plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth” (“agency adoptive child”) yw plentyn—
- a
y mae asiantaeth fabwysiadu wedi penderfynu amdano yn unol â rheoliad 19(1) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) ei fod yn blentyn y dylid ei leoli i'w fabwysiadu;
- b
y mae asiantaeth fabwysiadu wedi'i leoli i'w fabwysiadu; neu
- c
sydd wedi'i fabwysiadu ar ôl cael ei leoli i'w fabwysiadu gan asiantaeth fabwysiadu;
- a
ystyr “plentyn mabwysiadol heb fod drwy asiantaeth” (“non-agency adoptive child”) yw plentyn —
- a
y mae person —
- i
wedi hysbysu am y plentyn hwnnw o'i fwriad o dan adran 44 o Ddeddf 2002 i wneud cais am orchymyn mabwysiadu; a
- ii
yn berson nad yw'n rhiant naturiol nac yn llys-riant i'r plentyn; neu
- i
- b
sydd wedi'i fabwysiadu gan berson —
- i
nad yw'n rhiant naturiol y plentyn; a
- ii
nad oedd yn llys-riant y plentyn cyn iddo fabwysiadu'r plentyn
ond nad yw'n cynnwys plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth;
- i
- a
ystyr “rheolwr cofrestredig” (“registered manager”), o ran asiantaeth, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 fel rheolwr yr asiantaeth; a
rhaid dehongli “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) yn unol â rheoliad 5(2).
5
Yn y Rheoliadau hyn —
a
mae unrhyw gyfeiriad at blentyn mabwysiadol person yn gyfeiriad at blentyn sy'n blentyn mabwysiadol o ran y person hwnnw;
b
mae unrhyw gyfeiriad at riant mabwysiadol plentyn yn gyfeiriad at berson sy'n rhiant mabwysiadol o ran y plentyn hwnnw;
c
mae cyfeiriadau (heblaw cyfeiriadau yn yr is-baragraff hwn) at blentyn sy'n cael ei leoli i'w fabwysiadu —
i
yn gyfeiriadau at y plentyn sy'n cael ei leoli i'w fabwysiadu gyda darpar fabwysiadydd gan asiantaeth fabwysiadu;
ii
yn cynnwys, pan fo'r plentyn wedi'i leoli gyda pherson gan asiantaeth fabwysiadu, gadael y plentyn gyda'r person hwnnw fel darpar fabwysiadydd;
ch
mae unrhyw gyfeiriad at gyflogi person yn cynnwys cyflogi person boed am dâl neu beidio, a ph'un ai o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau, a chaniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr, a rhaid dehongli cyfeiriadau at gyflogai neu at berson sy'n cael ei gyflogi yn unol â hynny.