- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
1.—(1) Enw'r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Asiantaethau Cymorth Mabwysiadu (Cymru) 2005 a deuant i rym ar 30 Rhagfyr 2005.
(2) Mae'r Rheoliadau hyn yn gymwys o ran Cymru.
(3) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “Deddf 2000” (“the 2000 Act”) yw Deddf Safonau Gofal 2000(1);
ystyr “Deddf 2002” (“the 2002 Act”) yw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002(2);
mae “gwasanaethau cymorth mabwysiadu” (“adoption support services”) i'w ddehongli yn unol â rheoliad 2(2);
ystyr “plentyn mabwysiadol” (“adoptive child”) yw plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth neu blentyn mabwysiadol heb fod drwy asiantaeth;
ystyr “Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru)” (“the Adoption Agencies (Wales) Regulations”) yw Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) 2005(3);
ystyr “rhiant mabwysiadol” (“adoptive parent”) yw person:
y mae asiantaeth fabwysiadu wedi penderfynu yn unol â rheoliad 34(1) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) y byddai'n rhiant mabwysiadol addas i blentyn penodol;
y mae asiantaeth fabwysiadu wedi lleoli plentyn gydag ef i'w fabwysiadu;
sydd wedi hysbysu, o dan adran 44 o Ddeddf 2002, o'i fwriad i wneud cais am orchymyn mabwysiadu am blentyn;
sydd wedi mabwysiadu plentyn; neu
sydd wedi mabwysiadu plentyn sydd wedi cyrraedd 18 oed ar ôl hynny;
ond nid yw'n cynnwys person sy'n llys-riant neu'n rhiant naturiol i'r plentyn, neu a oedd yn llys-riant y plentyn cyn iddo fabwysiadu'r plentyn.
(4) Yn y Rheoliadau hyn —
ystyr “asiantaeth” (“agency”) yw asiantaeth cymorth mabwysiadu;
ystyr “awdurdod cofrestru” (“registration authority”) yw Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
ystyr “corff” (“organisation”) yw corff corfforaethol;
ystyr “darparydd cofrestredig” (“registered provider”), o ran asiantaeth, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 fel y person sy'n rhedeg yr asiantaeth;
ystyr “datganiad o ddiben” (“statement of purpose”) yw'r datganiad ysgrifenedig a luniwyd yn unol â rheoliad 3(1);
ystyr “diwrnod gwaith” (“working day”) yw unrhyw ddiwrnod heblaw dydd Sadwrn, dydd Sul, dydd Nadolig, dydd Gwener y Groglith neu ddiwrnod sy'n wyl banc o fewn ystyr “bank holiday” yn Neddf Bancio a Thrafodion Ariannol 1971(4);
ystyr “gwrthrych” (“subject”), o ran darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu o dan reoliadau 2(2)(d) neu (dd) yw person y mae'r person sy'n gofyn am y gwasanaeth yn ceisio cysylltu ag ef neu'n ceisio gwybodaeth amdano;
ystyr “person cofrestredig” (“registered person”), o ran asiantaeth, yw unrhyw berson sy'n ddarparydd cofrestredig neu'n rheolwr cofrestredig yr asiantaeth honno;
ystyr “person perthynol” (“related person”) yw—
perthynas o fewn ystyr “relative” yn adran 144(1) o Ddeddf 2002; neu
unrhyw berson y mae gan y plentyn mabwysiadol berthynas ag ef a honno'n berthynas sydd ym marn yr awdurdod lleol yn fanteisiol i les y plentyn o ystyried y materion y cyfeirir atynt yn is-baragraffau (i) i (iii) o adran 1(4)(f) o Ddeddf 2002;
ystyr “plentyn” (“child”) yw person nad yw wedi cyrraedd 18 oed;
ystyr “plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth” (“agency adoptive child”) yw plentyn—
y mae asiantaeth fabwysiadu wedi penderfynu amdano yn unol â rheoliad 19(1) o Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) ei fod yn blentyn y dylid ei leoli i'w fabwysiadu;
y mae asiantaeth fabwysiadu wedi'i leoli i'w fabwysiadu; neu
sydd wedi'i fabwysiadu ar ôl cael ei leoli i'w fabwysiadu gan asiantaeth fabwysiadu;
ystyr “plentyn mabwysiadol heb fod drwy asiantaeth” (“non-agency adoptive child”) yw plentyn —
y mae person —
wedi hysbysu am y plentyn hwnnw o'i fwriad o dan adran 44 o Ddeddf 2002 i wneud cais am orchymyn mabwysiadu; a
yn berson nad yw'n rhiant naturiol nac yn llys-riant i'r plentyn; neu
sydd wedi'i fabwysiadu gan berson —
nad yw'n rhiant naturiol y plentyn; a
nad oedd yn llys-riant y plentyn cyn iddo fabwysiadu'r plentyn
ond nad yw'n cynnwys plentyn mabwysiadol drwy asiantaeth;
ystyr “rheolwr cofrestredig” (“registered manager”), o ran asiantaeth, yw person sydd wedi'i gofrestru o dan Ran 2 o Ddeddf 2000 fel rheolwr yr asiantaeth; a
rhaid dehongli “unigolyn cyfrifol” (“responsible individual”) yn unol â rheoliad 5(2).
(5) Yn y Rheoliadau hyn —
(a)mae unrhyw gyfeiriad at blentyn mabwysiadol person yn gyfeiriad at blentyn sy'n blentyn mabwysiadol o ran y person hwnnw;
(b)mae unrhyw gyfeiriad at riant mabwysiadol plentyn yn gyfeiriad at berson sy'n rhiant mabwysiadol o ran y plentyn hwnnw;
(c)mae cyfeiriadau (heblaw cyfeiriadau yn yr is-baragraff hwn) at blentyn sy'n cael ei leoli i'w fabwysiadu —
(i)yn gyfeiriadau at y plentyn sy'n cael ei leoli i'w fabwysiadu gyda darpar fabwysiadydd gan asiantaeth fabwysiadu;
(ii)yn cynnwys, pan fo'r plentyn wedi'i leoli gyda pherson gan asiantaeth fabwysiadu, gadael y plentyn gyda'r person hwnnw fel darpar fabwysiadydd;
(ch)mae unrhyw gyfeiriad at gyflogi person yn cynnwys cyflogi person boed am dâl neu beidio, a ph'un ai o dan gontract gwasanaeth neu gontract ar gyfer gwasanaethau, a chaniatáu i berson weithio fel gwirfoddolwr, a rhaid dehongli cyfeiriadau at gyflogai neu at berson sy'n cael ei gyflogi yn unol â hynny.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: