RHAN 5MATERION AMRYWIOL — ASIANTAETHAU

Digwyddiadau hysbysadwy27

1

Os bydd unrhyw un o'r digwyddiadau a restrir yng ngholofn 1 o'r tabl yn Atodlen 4 (“y tabl”) yn digwydd mewn cysylltiad ag asiantaeth, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r person a nodir yn ddi-oed ynglyn â'r digwyddiad yng ngholofn 2 o'r tabl.

2

Rhaid cadarnhau yn ysgrifenedig unrhyw hysbysiad sy'n cael ei roi ar lafar yn unol â'r rheoliad hwn o fewn 10 o ddiwrnodau gwaith.

3

Yn y tabl —

  • ystyr “awdurdod perthnasol” yw —

    1. a

      yr awdurdod lleol y mae'r asiantaeth wedi'i leoli yn ei ardal, a

    2. b

      o ran plentyn sydd wedi marw neu sydd wedi'i anafu'n ddifrifol wrth gael gwasanaethau cymorth mabwysiadu, unrhyw awdurdod lleol arall y mae'r asiantaeth yn darparu gwasnaethau cymorth mabwysiadu ar ei ran i'r plentyn hwnnw o dan reoliadau a wnaed o dan adran 3(4)(b) o Ddeddf 2002,

    3. c

      ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” ac “Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol” yw'r Bwrdd Iechyd Lleol neu'r Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol yr oedd y plentyn sydd wedi marw neu sydd wedi'i anafu'n ddifrifol wrth gael gwasanaethau cymorth mabwysiadu yn byw yn ei ardal adeg y digwyddiad.

Y sefyllfa ariannol28

1

Rhaid i'r darparydd cofrestredig:

a

rhedeg yr asiantaeth mewn modd sy'n debyg o sicrhau y bydd yn hyfyw yn ariannol er mwyn cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn ei datganiad o ddiben; a

b

sicrhau bod cyfrifon digonol yn cael eu cynnal a chadw'n gyfoes ynglyn â'r asiantaeth.

2

Os bydd yr awdurdod cofrestru yn gofyn amdanynt, rhaid i'r darparydd cofrestredig ddarparu i'r awdurdod cofrestru unrhyw wybodaeth a dogfennau y bydd yn ofynnol i'r awdurdod eu cael er mwyn ystyried hyfywedd ariannol yr asiantaeth, gan gynnwys —

a

cyfrifon blynyddol yr asiantaeth wedi'u hardystio gan gyfrifydd;

b

geirda oddi wrth fanc yn mynegi barn ar statws ariannol y darparydd cofrestredig;

c

gwybodaeth am ddull ariannu'r asiantaeth a'i hadnoddau ariannol;

ch

gwybodaeth am unrhyw gwmnïau cysylltiedig y corff; a

d

tystysgrif yswiriant ar gyfer y darparydd cofrestredig o ran unrhyw rwymedigaeth y gallai'r darparydd fynd iddi mewn cysylltiad â'r asiantaeth o ran marwolaeth, anaf, atebolrwydd cyhoeddus, difrod neu unrhyw golled arall.

Hysbysu absenoldeb29

1

Pan fo'r rheolwr yn bwriadu bod yn absennol o'r asiantaeth am gyfnod parhaus o 28 o ddiwrnodau neu ragor, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r awdurdod cofrestru yn ysgrifenedig o'r absenoldeb arfaethedig.

2

Ac eithrio pan fydd argyfwng, rhaid i'r hysbysiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) gael ei roi ddim hwyrach na mis cyn i'r absenoldeb arfaethedig ddechrau, neu o fewn unrhyw gyfnod byrrach y cytunir arno gyda'r awdurdod cofrestru, a rhaid i'r hysbysiad bennu —

a

hyd neu hyd disgwyliedig yr absenoldeb arfaethedig;

b

y rheswm dros yr absenoldeb arfaethedig;

c

y trefniadau sydd wedi'u gwneud ar gyfer rhedeg yr asiantaeth yn ystod yr absenoldeb hwnnw;

ch

enw, cyfeiriad a chymwysterau'r person a fydd yn gyfrifol am reoli'r asiantaeth yn ystod yr absenoldeb; a

d

y trefniadau sydd wedi'u gwneud neu y bwriedir eu gwneud ar gyfer penodi person arall i reoli'r asiantaeth yn ystod yr absenoldeb, gan gynnwys y dyddiad arfaethedig erbyn pryd y mae'r penodiad i ddechrau.

3

Pan fo'r absenoldeb yn codi o ganlyniad i argyfwng, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu o'r absenoldeb o fewn wythnos i'r argyfwng ddigwydd, gan bennu'r materion a grybwyllwyd ym mharagraff (2)(a) i (d).

4

Pan fo'r rheolwr cofrestredig wedi bod yn absennol o'r asiantaeth am gyfnod parhaus o 28 o ddiwrnodau neu ragor, a bod yr awdurdod cofrestru heb gael ei hysbysu o'r absenoldeb, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'n ddi-oed yr awdurdod cofrestru yn ysgrifenedig, gan bennu'r materion a grybwyllwyd ym mharagraff (2)(a) i (d).

5

Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r awdurdod cofrestru bod y rheolwr cofrestredig wedi dychwelyd i'r gwaith ddim hwyrach na 5 niwrnod gwaith ar ôl dyddiad ei ddychweliad.

Hysbysu newidiadau30

1

Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r awdurdod cofrestru yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo'n ymarferol i wneud hynny os bydd unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol yn digwydd neu y bwriedir iddynt ddigwydd —

a

bod person heblaw'r darparydd cofrestredig yn rhedeg yr asiantaeth;

b

bod person yn peidio â rheoli'r asiantaeth;

c

bod enw neu gyfeiriad y darparydd cofrestredig wedi'i newid;

ch

bod unrhyw newid o ran ymddiriedolwr, cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall tebyg i'r darparydd cofrestredig;

d

bod unrhyw newid i fod o ran pwy yw'r unigolyn cyfrifol;

dd

bod derbynnydd, rheolwr, datodwr neu ddatodwr dros dro wedi'i benodi o ran y darparydd cofrestredig; neu

e

bod yr asiantaeth yn bwriadu peidio â gweithredu neu fodoli fel y cyfryw.

2

Rhaid i'r darparydd cofrestredig hysbysu'r awdurdod cofrestru yn ysgrifenedig ac yn ddi-oed o farwolaeth yr unigolyn cyfrifol neu'r rheolwr cofrestredig.

Penodi datodwyr etc31

1

Rhaid i unrhyw berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo —

a

hysbysu'r awdurdod cofrestru ar unwaith o'i benodiad gan nodi'r rhesymau drosto;

b

penodi rheolwr i gymryd gofal amser-llawn o ddydd i ddydd dros yr asiantaeth mewn unrhyw achos lle nad oes unrhyw reolwr; ac

c

heb fod yn hwy nag 20 o ddiwrnodau ar ôl ei benodiad, hysbysu'r awdurdod cofrestru o'i fwriadau ar gyfer gweithredu'r asiantaeth yn y dyfodol.

2

Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir —

a

yn dderbynydd neu'n rheolwr eiddo darparydd cofrestredig;

b

yn ddatodwr neu'n ddatodwr dros dro i ddarparydd cofrestredig.

Tramgwyddau32

1

Bydd mynd yn groes i unrhyw un o ddarpariaethau rheoliadau 3 i 8, 12, 16 i 30 neu fethu â chydymffurfio ag unrhyw un ohonynt yn dramgwydd yn rhinwedd adran 9(3) o Ddeddf 2002.

2

Bydd mynd yn groes i unrhyw un o ddarpariaethau rheoliadau 9 neu 31 neu fethu â chydymffurfio ag unrhyw un ohonynt yn dramgwydd yn rhinwedd adran 25(2) o Ddeddf 2000.

3

Caiff yr awdurdod cofrestru ddwyn achos yn erbyn person a oedd ar un adeg, ond nad yw bellach, yn berson cofrestredig, am fethiant i gydymffurfio â rheoliad 18 neu 25.

Cydymffurfio â rheoliadau33

Pan fo'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn i unrhyw beth gael ei wneud gan fwy nag un person, rhaid peidio â'i gwneud yn ofynnol iddo gael ei wneud, os yw wedi'i wneud gan un o'r personau hynny, gan y person arall neu, yn ôl y digwydd, y personau eraill.

Diwygio Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 200234

1

Mae Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 20028 wedi'u diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.

2

Yn rheoliad 2(1) —

a

yn y man priodol mewnosoder —

  • “Adoption Support Agency” has the same meaning given by section 8 of the Adoption and Children Act 2002

b

yn y diffiniad o “"appropriate office"” ar ôl paragraff (i) mewnosoder

j

in relation to an adoption support agency, any office of the National Assembly for Wales.

c

yn y diffiniad o “statement of purpose” mewnosoder—

k

in relation to an adoption support agency, the written statement required to be compiled in relation to the agency in accordance with regulation 3 of the Adoption Support Agencies (Wales) Regulations 2005;

Darpariaethau Trosiannol35

1

Mae'r Rheoliad hwn yn gymwys i asiantaethau cymorth mabwysiadu y mae'n ofynnol iddynt gael eu cofrestru o dan y Ddeddf yn rhinwedd darpariaethau Deddf 2000 a'r Rheoliadau hyn ond nad oedd yn ofynnol iddynt gael eu cofrestru felly yn union cyn 30 Rhagfyr 2005.

2

Er gwaethaf unrhyw un o'r darpariaethau hynny, caiff asiantaeth cymorth mabwysiadu a oedd yn union cyn 30 Rhagfyr 2005 yn rhedeg neu'n rheoli asiantaeth barhau i redeg neu reoli'r asiantaeth heb gael ei chofrestru o dan Ddeddf 2000

a

yn ystod y cyfnod o 3 mis sy'n dechrau ar y dyddiad hwnnw; a

b

os, o fewn y cyfnod hwnnw, y gwneir cais am gael cofrestru, hyd nes y gwaredir y cais hwnnw yn derfynol neu'i dynnu yn ôl.

3

Yn y rheoliad hwn ystyr 'gwaredu yn derfynol' yw'r dyddiad 28 o ddiwrnodau gwaith ar ôl caniatáu neu wrthod cofrestriad ac, os apelir, y dyddiad pan benderfynir ar yr apêl yn derfynol neu pan roddir y gorau iddo.