- Latest available (Revised) - English
- Latest available (Revised) - Welsh
- Original (As made) - English
- Original (As made) - Welsh
This is the original version (as it was originally made). Dim ond ar ei ffurf wreiddiol y mae’r eitem hon o ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd.
27.—(1) Os bydd unrhyw un o'r digwyddiadau a restrir yng ngholofn 1 o'r tabl yn Atodlen 4 (“y tabl”) yn digwydd mewn cysylltiad ag asiantaeth, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r person a nodir yn ddi-oed ynglyn â'r digwyddiad yng ngholofn 2 o'r tabl.
(2) Rhaid cadarnhau yn ysgrifenedig unrhyw hysbysiad sy'n cael ei roi ar lafar yn unol â'r rheoliad hwn o fewn 10 o ddiwrnodau gwaith.
(3) Yn y tabl —
ystyr “awdurdod perthnasol” yw —
yr awdurdod lleol y mae'r asiantaeth wedi'i leoli yn ei ardal, a
o ran plentyn sydd wedi marw neu sydd wedi'i anafu'n ddifrifol wrth gael gwasanaethau cymorth mabwysiadu, unrhyw awdurdod lleol arall y mae'r asiantaeth yn darparu gwasnaethau cymorth mabwysiadu ar ei ran i'r plentyn hwnnw o dan reoliadau a wnaed o dan adran 3(4)(b) o Ddeddf 2002,
ystyr “Bwrdd Iechyd Lleol” ac “Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol” yw'r Bwrdd Iechyd Lleol neu'r Ymddiriedolaeth Gofal Sylfaenol yr oedd y plentyn sydd wedi marw neu sydd wedi'i anafu'n ddifrifol wrth gael gwasanaethau cymorth mabwysiadu yn byw yn ei ardal adeg y digwyddiad.
28.—(1) Rhaid i'r darparydd cofrestredig:
(a)rhedeg yr asiantaeth mewn modd sy'n debyg o sicrhau y bydd yn hyfyw yn ariannol er mwyn cyflawni'r nodau a'r amcanion a nodir yn ei datganiad o ddiben; a
(b)sicrhau bod cyfrifon digonol yn cael eu cynnal a chadw'n gyfoes ynglyn â'r asiantaeth.
(2) Os bydd yr awdurdod cofrestru yn gofyn amdanynt, rhaid i'r darparydd cofrestredig ddarparu i'r awdurdod cofrestru unrhyw wybodaeth a dogfennau y bydd yn ofynnol i'r awdurdod eu cael er mwyn ystyried hyfywedd ariannol yr asiantaeth, gan gynnwys —
(a)cyfrifon blynyddol yr asiantaeth wedi'u hardystio gan gyfrifydd;
(b)geirda oddi wrth fanc yn mynegi barn ar statws ariannol y darparydd cofrestredig;
(c)gwybodaeth am ddull ariannu'r asiantaeth a'i hadnoddau ariannol;
(ch)gwybodaeth am unrhyw gwmnïau cysylltiedig y corff; a
(d)tystysgrif yswiriant ar gyfer y darparydd cofrestredig o ran unrhyw rwymedigaeth y gallai'r darparydd fynd iddi mewn cysylltiad â'r asiantaeth o ran marwolaeth, anaf, atebolrwydd cyhoeddus, difrod neu unrhyw golled arall.
29.—(1) Pan fo'r rheolwr yn bwriadu bod yn absennol o'r asiantaeth am gyfnod parhaus o 28 o ddiwrnodau neu ragor, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r awdurdod cofrestru yn ysgrifenedig o'r absenoldeb arfaethedig.
(2) Ac eithrio pan fydd argyfwng, rhaid i'r hysbysiad y cyfeiriwyd ato ym mharagraff (1) gael ei roi ddim hwyrach na mis cyn i'r absenoldeb arfaethedig ddechrau, neu o fewn unrhyw gyfnod byrrach y cytunir arno gyda'r awdurdod cofrestru, a rhaid i'r hysbysiad bennu —
(a)hyd neu hyd disgwyliedig yr absenoldeb arfaethedig;
(b)y rheswm dros yr absenoldeb arfaethedig;
(c)y trefniadau sydd wedi'u gwneud ar gyfer rhedeg yr asiantaeth yn ystod yr absenoldeb hwnnw;
(ch)enw, cyfeiriad a chymwysterau'r person a fydd yn gyfrifol am reoli'r asiantaeth yn ystod yr absenoldeb; a
(d)y trefniadau sydd wedi'u gwneud neu y bwriedir eu gwneud ar gyfer penodi person arall i reoli'r asiantaeth yn ystod yr absenoldeb, gan gynnwys y dyddiad arfaethedig erbyn pryd y mae'r penodiad i ddechrau.
(3) Pan fo'r absenoldeb yn codi o ganlyniad i argyfwng, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu o'r absenoldeb o fewn wythnos i'r argyfwng ddigwydd, gan bennu'r materion a grybwyllwyd ym mharagraff (2)(a) i (d).
(4) Pan fo'r rheolwr cofrestredig wedi bod yn absennol o'r asiantaeth am gyfnod parhaus o 28 o ddiwrnodau neu ragor, a bod yr awdurdod cofrestru heb gael ei hysbysu o'r absenoldeb, rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'n ddi-oed yr awdurdod cofrestru yn ysgrifenedig, gan bennu'r materion a grybwyllwyd ym mharagraff (2)(a) i (d).
(5) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r awdurdod cofrestru bod y rheolwr cofrestredig wedi dychwelyd i'r gwaith ddim hwyrach na 5 niwrnod gwaith ar ôl dyddiad ei ddychweliad.
30.—(1) Rhaid i'r person cofrestredig hysbysu'r awdurdod cofrestru yn ysgrifenedig cyn gynted ag y bo'n ymarferol i wneud hynny os bydd unrhyw un o'r digwyddiadau canlynol yn digwydd neu y bwriedir iddynt ddigwydd —
(a)bod person heblaw'r darparydd cofrestredig yn rhedeg yr asiantaeth;
(b)bod person yn peidio â rheoli'r asiantaeth;
(c)bod enw neu gyfeiriad y darparydd cofrestredig wedi'i newid;
(ch)bod unrhyw newid o ran ymddiriedolwr, cyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall tebyg i'r darparydd cofrestredig;
(d)bod unrhyw newid i fod o ran pwy yw'r unigolyn cyfrifol;
(dd)bod derbynnydd, rheolwr, datodwr neu ddatodwr dros dro wedi'i benodi o ran y darparydd cofrestredig; neu
(e)bod yr asiantaeth yn bwriadu peidio â gweithredu neu fodoli fel y cyfryw.
(2) Rhaid i'r darparydd cofrestredig hysbysu'r awdurdod cofrestru yn ysgrifenedig ac yn ddi-oed o farwolaeth yr unigolyn cyfrifol neu'r rheolwr cofrestredig.
31.—(1) Rhaid i unrhyw berson y mae paragraff (2) yn gymwys iddo —
(a)hysbysu'r awdurdod cofrestru ar unwaith o'i benodiad gan nodi'r rhesymau drosto;
(b)penodi rheolwr i gymryd gofal amser-llawn o ddydd i ddydd dros yr asiantaeth mewn unrhyw achos lle nad oes unrhyw reolwr; ac
(c)heb fod yn hwy nag 20 o ddiwrnodau ar ôl ei benodiad, hysbysu'r awdurdod cofrestru o'i fwriadau ar gyfer gweithredu'r asiantaeth yn y dyfodol.
(2) Mae'r paragraff hwn yn gymwys i unrhyw berson a benodir —
(a)yn dderbynydd neu'n rheolwr eiddo darparydd cofrestredig;
(b)yn ddatodwr neu'n ddatodwr dros dro i ddarparydd cofrestredig.
32.—(1) Bydd mynd yn groes i unrhyw un o ddarpariaethau rheoliadau 3 i 8, 12, 16 i 30 neu fethu â chydymffurfio ag unrhyw un ohonynt yn dramgwydd yn rhinwedd adran 9(3) o Ddeddf 2002.
(2) Bydd mynd yn groes i unrhyw un o ddarpariaethau rheoliadau 9 neu 31 neu fethu â chydymffurfio ag unrhyw un ohonynt yn dramgwydd yn rhinwedd adran 25(2) o Ddeddf 2000.
(3) Caiff yr awdurdod cofrestru ddwyn achos yn erbyn person a oedd ar un adeg, ond nad yw bellach, yn berson cofrestredig, am fethiant i gydymffurfio â rheoliad 18 neu 25.
33. Pan fo'n ofynnol o dan y Rheoliadau hyn i unrhyw beth gael ei wneud gan fwy nag un person, rhaid peidio â'i gwneud yn ofynnol iddo gael ei wneud, os yw wedi'i wneud gan un o'r personau hynny, gan y person arall neu, yn ôl y digwydd, y personau eraill.
34.—(1) Mae Rheoliadau Cofrestru Gofal Cymdeithasol a Gofal Iechyd Annibynnol (Cymru) 2002(1) wedi'u diwygio yn unol â darpariaethau canlynol y rheoliad hwn.
(2) Yn rheoliad 2(1) —
(a)yn y man priodol mewnosoder —
““Adoption Support Agency” has the same meaning given by section 8 of the Adoption and Children Act 2002”;
(b)yn y diffiniad o “"appropriate office"” ar ôl paragraff (i) mewnosoder
“(j)in relation to an adoption support agency, any office of the National Assembly for Wales.”;
(c)yn y diffiniad o “statement of purpose” mewnosoder—
“(k)in relation to an adoption support agency, the written statement required to be compiled in relation to the agency in accordance with regulation 3 of the Adoption Support Agencies (Wales) Regulations 2005;”.
35.—(1) Mae'r Rheoliad hwn yn gymwys i asiantaethau cymorth mabwysiadu y mae'n ofynnol iddynt gael eu cofrestru o dan y Ddeddf yn rhinwedd darpariaethau Deddf 2000 a'r Rheoliadau hyn ond nad oedd yn ofynnol iddynt gael eu cofrestru felly yn union cyn 30 Rhagfyr 2005.
(2) Er gwaethaf unrhyw un o'r darpariaethau hynny, caiff asiantaeth cymorth mabwysiadu a oedd yn union cyn 30 Rhagfyr 2005 yn rhedeg neu'n rheoli asiantaeth barhau i redeg neu reoli'r asiantaeth heb gael ei chofrestru o dan Ddeddf 2000 —
(a)yn ystod y cyfnod o 3 mis sy'n dechrau ar y dyddiad hwnnw; a
(b)os, o fewn y cyfnod hwnnw, y gwneir cais am gael cofrestru, hyd nes y gwaredir y cais hwnnw yn derfynol neu'i dynnu yn ôl.
(3) Yn y rheoliad hwn ystyr 'gwaredu yn derfynol' yw'r dyddiad 28 o ddiwrnodau gwaith ar ôl caniatáu neu wrthod cofrestriad ac, os apelir, y dyddiad pan benderfynir ar yr apêl yn derfynol neu pan roddir y gorau iddo.
Latest Available (revised):The latest available updated version of the legislation incorporating changes made by subsequent legislation and applied by our editorial team. Changes we have not yet applied to the text, can be found in the ‘Changes to Legislation’ area. The revised version is currently only available in English.
Original (As Enacted or Made) - English: The original English language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Original (As Enacted or Made) - Welsh:The original Welsh language version of the legislation as it stood when it was enacted or made. No changes have been applied to the text.
Access essential accompanying documents and information for this legislation item from this tab. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Use this menu to access essential accompanying documents and information for this legislation item. Dependent on the legislation item being viewed this may include:
Click 'View More' or select 'More Resources' tab for additional information including: