RHAN 3CEISIADAU AM WASANAETHAU CYMORTH MABWYSIADU
Cymhwysiad y darpariaethau10
Dim ond i asiantaethau sy'n darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu o dan reoliadau 2(2)(d) neu (dd) y mae'r darpariaethau canlynol a gynhwysir yn y Rhan hon yn gymwys.
Dim rhwymedigaeth i fwrw ymlaen os nad yw'n briodol11
1
Nid yw'n ofynnol i asiantaeth sy'n darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu o dan reoliadau 2(2)(d) neu (dd) ddechrau darparu gwasanaethau o'r fath, neu ar ôl iddi ddechrau darparu'r gwasanaethau hynny, nid yw'n ofynnol iddi barhau i'w darparu os yw'r asiantaeth o'r farn na fyddai'n briodol iddi wneud hynny.
2
Wrth benderfynu a yw'n briodol iddi ddarparu'r gwasanaethau hynny (neu ddechrau darparu'r gwasanaethau o'r fath), rhaid i'r asiantaeth roi sylw i'r canlynol:
a
lles y person a fabwysiadwyd sy'n gofyn am y gwasanaeth;
b
lles y perthynas sy'n gofyn am y gwasanaeth;
c
unrhyw feto a gofnodwyd o dan reoliad 13;
ch
unrhyw wybodaeth a ddelir gan y Cofrestrydd Cyffredinol ar y Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu;
a holl amgylchiadau eraill yr achos.
3
Rhaid i asiantaeth beidio â dechrau darparu gwasanaethau i berson a fabwysiadwyd nac i berthynas i'w cynorthwyo i gysylltu â pherson sydd o dan 18 oed, na pharhau i ddarparu gwasanaethau o'r fath—
a
oni bai bod amgylchiadau eithriadol, a
b
oni chydymffurfir â darpariaethau paragraff (4).
4
Rhaid i asiantaeth beidio â bwrw ymlaen â darparu gwasanaethau o'r math y cyfeirir atynt yn is-baragraff (3) oni bai—
a
bod person gyda chyfrifoldeb rhiant dros y plentyn wedi cydsynio, a
b
bod naill ai
i
y plentyn, a hwnnw'n blentyn sy'n gymwys i gydsynio, wedi cydsynio, neu
ii
unrhyw ddymuniadau neu deimladau gan blentyn nad yw'n gymwys wedi'u cymryd i ystyriaeth.
Cydsyniad y gwrthrych â datgeliad etc12
1
Rhaid i asiantaeth beidio â datgelu unrhyw wybodaeth adnabod am y gwrthrych i'r person sy'n gofyn am yr wybodaeth honno heb sicrhau cydsyniad y gwrthrych.
2
Rhaid i'r asiantaeth gymryd pob cam rhesymol i sicrhau bod gan y gwrthrych ddigon o wybodaeth i'w alluogi i wneud penderfyniad deallus ynghylch a ddylai gydsynio ag unrhyw ddatgeliad o'r fath.
3
Os yw'r gwrthrych wedi marw neu os bydd yr asiantaeth yn penderfynu ei fod yn analluog i gydsynio, caiff yr asiantaeth ddatgelu'r wybodaeth adnabod am y gwrthrych sy'n briodol o ystyried lles y rhai y gallai'r datgeliad effeithio ar eu lles a chaniateir i'r broses hon gynnwys dod o hyd i farn y personau hynny.
4
Yn y rheoliad hwn ac yn rheoliad 14, ystyr “gwybodaeth adnabod” yw gwybodaeth a fyddai'n galluogi o'i chymryd ar ei phen ei hun neu ynghyd â gwybodaeth arall a feddir gan y person sy'n gofyn amdani, i'r gwrthrych gael ei adnabod a'i olrhain.
Feto gan berson a fabwysiadwyd neu gan berthynas13
1
Mae feto yn gymwys ynglyn â darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu o dan reoliadau 2(2) (d) neu (dd) —
a
os y person a fabwysiadwyd yw'r gwrthrych; neu
b
os perthynas i'r person a fabwysiadwyd yw'r gwrthrych; ac
c
os yw'r person hwnnw wedi hysbysu'r asiantaeth yn ysgrifenedig —
i
nad yw'n dymuno i'r asiantaeth gysylltu ag ef; neu
ii
mai dim ond o dan amgylchiadau penodedig neu gan bersonau penodedig y mae'n dymuno cael cyswllt.
2
Pan fo'r asiantaeth yn cael ei hysbysu o feto o dan baragraff (1), rhaid iddi gadw cofnod ohono.
3
Pan fo asiantaeth yn ymwybodol bod feto yn gymwys, rhaid iddi beidio â bwrw ymlaen â'r cais.
Darparu gwybodaeth gefndir pan fo cais am gydsyniad yn cael ei wrthod etc14
Pan fo cais am gydsyniad y gwrthrych yn cael ei wrthod neu pan na ellir ei gael o dan reoliad 12 neu pan fo feto yn gymwys o dan reoliad 13, ni fydd dim yn y rheoliadau hynny yn atal yr asiantaeth rhag datgelu unrhyw wybodaeth am y gwrthrych nad yw'n wybodaeth adnabod ond sy'n wybodaeth y mae'r asiantaeth yn barnu ei bod yn briodol ei datgelu i'r person a fabwysiadwyd neu'r perthynas a wnaeth y cais.
Cwnsela15
1
Rhaid i asiantaeth ddarparu gwybodaeth ysgrifenedig ynglyn ag argaeledd cwnsela i unrhyw berson sydd—
a
yn gwneud cais am wasanaethau cymorth mabwysiadu o dan Reoliadau 2(2)(d) neu (dd); neu
b
yn wrthrych cais o'r fath ac sy'n ystyried a ddylai gydsynio â datgelu gwybodaeth amdano i'r person a ofynnodd am yr wybodaeth honno.
2
Rhaid i'r wybodaeth a ddarperir o dan baragraff (1) gynnwys—
a
disgrifiadau o'r personau sy'n cynnig cwnsela; a
b
y ffioedd y gall y personau hynny eu codi.
3
Os bydd person a grybwyllir ym mharagraff (1) yn gofyn bod cwnsela yn cael ei ddarparu iddo, rhaid i'r asiantaeth cymorth mabwysiadu sicrhau bod gwasnaethau cwnsela yn cael eu darparu i'r person hwnnw.
4
Caiff yr asiantaeth ddarparu gwasanaethau cwnsela o'r fath ei hun neu wneud trefniadau naill ai
a
gyda darparydd cofrestredig arall sy'n darparu gwasanaethau cymorth mabwysiadu, neu
b
gyda pherson sy'n darparu gwasanaethau o'r fath o dan gontract i ddarparydd cofrestredig.
5
Pan fo gwrthrych cais yn dewis peidio â manteisio ar wasanaeth cwnsela y mae ffi yn daladwy amdano, rhaid i'r asiantaeth cymorth mabwysiadu roi cymorth a chefnogaeth, serch hynny, i'r gwrthrych sy'n gwneud penderfyniad.