RHAN 2DARPARWYR COFRESTREDIG, UNIGOLION CYFRIFOL A RHEOLWYR

Ffitrwydd y darparydd cofrestredig5

1

Rhaid i gorff beidio â rhedeg asiantaeth oni bai ei fod yn ffit i wneud hynny.

2

Nid yw corff yn ffit i redeg asiantaeth —

a

oni bai ei fod wedi hysbysu'r awdurdod cofrestru o enw, cyfeiriad a safle unigolyn (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel “yr unigolyn cyfrifol”) yn y corff a hwnnw'n unigolyn sy'n gyfarwyddwr, rheolwr, ysgrifennydd neu swyddog arall i'r corff hwnnw ac sy'n gyfrifol am oruchwylio gwaith rheoli'r asiantaeth; a

b

oni bai bod yr unigolyn hwnnw yn bodloni'r gofynion a nodir ym mharagraff (3).

3

Y gofynion yw —

a

bod yr unigolyn yn addas o ran gonestrwydd a chymeriad da i redeg yr asiantaeth;

b

ei fod yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i redeg yr asiantaeth; ac

c

bod gwybodaeth neu ddogfennaeth lawn a boddhaol ar gael ynglyn â'r person o ran pob un o'r materion a bennir yn Atodlen 2.

Penodi rheolwr6

1

Rhaid i'r darparydd cofrestredig benodi unigolyn (y cyfeirir ato yn y Rheoliadau hyn fel 'y rheolwr cofrestredig') i reoli'r asiantaeth.

2

Rhaid i'r darparydd cofrestredig hysbysu'r awdurdod cofrestru ar unwaith o'r canlynol —

a

enw unrhyw berson a benodir yn unol â'r rheoliad hwn; a

b

y dyddiad y daw'r penodiad yn effeithiol.

Ffitrwydd y rheolwr7

1

Rhaid i'r darparydd cofrestredig beidio â chaniatáu i berson reoli'r asiantaeth onid yw'n ffit i wneud hynny.

2

Nid yw person yn ffit i reoli asiantaeth oni bai —

a

ei fod yn addas o ran ei onestrwydd a'i gymeriad da;

b

o ystyried maint yr asiantaeth a datganiad o ddiben yr asiantaeth —

i

bod gan y person y cymwysterau, y sgiliau a'r profiad sy'n angenrheidiol i reoli'r asiantaeth; a

ii

bod y person yn ffit yn gorfforol ac yn feddyliol i reoli'r asiantaeth; ac

c

bod gwybodaeth lawn a boddhaol ar gael ynglyn â'r person o ran pob un o'r materion a bennir yn Atodlen 2.

Y person cofrestredig — gofynion cyffredinol8

1

Rhaid i'r darparydd cofrestredig a'r rheolwr cofrestredig, wedi iddynt ystyried —

a

maint yr asiantaeth a datganiad o ddiben yr asiantaeth; a

b

yr angen i ddiogelu a hyrwyddo lles y rhai sy'n cael gwasanaethau cymorth mabwysiadu gan yr asiantaeth,

redeg neu reoli'r asiantaeth â gofal, cymhwysedd a sgil digonol.

2

Rhaid i'r darparydd cofrestredig sicrhau bod yr unigolyn cyfrifol yn ymgymryd o dro i dro â'r hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod ganddo'r profiad a'r sgiliau a'r arbenigedd sy'n angenrheidiol ar gyfer rhedeg yr asiantaeth.

3

Rhaid i'r darparydd cofrestredig sicrhau bod y rheolwr cofrestredig yn ymgymryd o dro i dro â'r hyfforddiant sy'n briodol i sicrhau bod ganddo'r profiad a'r sgiliau sy'n angenrheidiol ar gyfer rheoli'r asiantaeth.

Hysbysu tramgwyddau9

1

Pan fo'r person cofrestredig neu'r unigolyn cyfrifol wedi'i gollfarnu o unrhyw dramgwydd troseddol, boed yng Nghymru neu'n rhywle arall, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig i'r awdurdod cofrestru ar unwaith o'r canlynol —

a

dyddiad a lle'r gollfarn;

b

y tramgwydd y mae wedi'i gollfarnu ohoni;

c

y gosb a osodwyd am y tramgwydd.